Y Gêm Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:Persia afghanistan 1848.jpg|250px|bawd|Canolbarth Asia yng nghyfnod y Gêm Fawr (map: 1848)]]
Term a fathwyd i ddisgrifio'r ymgiprys am rym strategol a gwrthdaro rhwng yr [[Ymerodraeth Brydeinig]] ac [[Ymerodraeth Rwsia|Ymerodraeth]] [[Rwsia]] am oruchafiaeth yng [[Canolbarth Asia|Nghanolbarth Asia]] yn y 19eg ganrif yw '''Y Gêm Fawr''' (o'r ymadrodd [[Saesneg]], ''The Great Game''). Mae cyfnod y Gêm Fawr yn ymestyn o tua'r 1810au ac arwyddo [[Cytundeb Persia a Rwsia 1813]] hyd y [[Gynhadledd Eingl-Rwsiaidd]] yn 1907. Gellid ystyried yr anghydfod yn y rhanbarth a ddilynodd [[Chwyldro'r Bolsheficiaid]] yn Rwsia yn 1917 yn barhad o'r Gêm ar raddfa llai.
 
Bathwyd y term "''The Great Game''" gan Arthur Conolly, swyddog gwybodaeth yn Chweched Farchoglu Ysgafn Bengal (''Bengal Light Cavalry'') [[Cwmni Prydeinig Dwyrain India]]. Daeth yn enw cyfarwydd ym Mhrydain a llefydd eraill ar ôl iddo gael ei ddefnyddio gan y nofelydd Seisnig [[Rudyard Kipling]] yn ei nofel ''[[Kim]]'' (1901).
 
Yn ogystal â Phrydain a Rwsia, roedd y Gêm Fawr yn effeithio ar wleidyddiaeth a chymdeithas gwledydd fel [[Persia]], [[Tibet]] a [[Tsieina]], ynghyd â'r [[India Brydeinig]] ([[India]] a [[Pacistan]]), ond ei chanolbwynt oedd [[Affganistan]] a gorllewin a gogledd Pacistan (nad oedd yn bod y pryd hynny). Gellid dadlau fod rhai o ganlyniadau'r Gêm yn effeithio ar y rhanbarth hyd heddiw, e.e. y sefyllfa yn Affganistan a meddianu [[Tibet]] gan [[Gweriniaeth Pobl Tsieina|Weriniaeth Pobl Tsieina]].