Harri VII, brenin Lloegr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 38:
 
===Gwrthryfel aflwyddiannus===
Yn dilyn coroni [[Harri III, brenin Lloegr|Harri III]], cafwyd llawer o fân wrthryfela ledled Lloegr gydag ymateb y brenin newydd yn hynod o llawdrwm, a dihangodd llawer o bobl i Lydaw at Harri. Yn haf 1483 cydgordiodd mamau Harri ac [[Elisabeth o Efrog]], sef [[Margaret Beaufort]] ac [[Elizabeth Woodville]] wrthryfel arall, fyddai'n digwydd ar yr un adeg ag ymosodiad Harri ar Loegr. Cytunodd y dug Francis II brenin Llydaw i ddanfon saith llong gyda 517 o filwyr arfog, a gostiodd iddo dros 13,000 coron. Ond ar 18 Hydref, trodd y gwynt yn storm a gorfodwyd y cychod yn ôl i Lydaw. Roedd si o'r gwrthryfel wedi cyrraedd Richard III ac aeth ati i ddial; daliwyd [[Henry Stafford, ail ddug Buckingham]] a lladdwyd ef yng nghanol yr [[Amwythig]]. Yn dilyn ei farwolaeth, priododd Siasbar Tudur ei weddw Catherine. Methodd y gwrthryfel am ddau reswm, yn gyntaf roedd rebeliaid Caint wedi codi wythnosau cyn y dyddiad a gytunwyd, a thrwy hynny daeth Richard i glywed am y cynlluniau. Yn ail, nid ymunodd y Cymry gyda'r gwrthryfel.<ref>''It is striking that, in the list of men attained for their support of Buckingham, not a single Welsh name is mentioned.'' Gweler ''Bosworth'' gan Chris Skidmore; Gwasg Phoenix (2013); tudalen 94/5.</ref>
 
===Addewid i briodi Elizabeth===