Arctic Monkeys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
Band roc o Sheffield ydy'r '''Arctic Monkeys'''. Yr aelodau yw [[Alex Turner]] (Prif Ganwr a Gitar), [[Jamie Cook]] (Prif Gitar), [[Nick O'Malley]] (Gitar Bâs - aelod newydd, gan fod gitarydd bâs gwreiddiol y band, Andy Nicholson, wedi penderfynu gadael), a [[Matt Helder]] (Drymiau). Cafodd ''[[MySpace]]'' ddylanwad enfawr ar eu llwyddiant cynnar, ac aeth eu sengl cyntaf, 'I Bet That You Look Good On The Dancefloor' i rif 1 yn siartiau Prydain. Daeth llwyddiant pellach yn fuan wedyn, ar ôl i'w halbwm cyntaf, 'Whatever People Say I Am, That's What I'm Not', gyrraedd rhif 1 yn y Deyrnas Unedig, lle torrodd y record am y nifer a werthwyd yn yr wythnos gyntaf o werthiant. Enillodd yr albwm wobr ''Mercury Music'' yn 2006, fel yr albwm gorau'r flwyddyn. Hefyd enillodd yr albwm yn y categori 'Albwm Gorau' a'r band yn ennill y teitl 'Band Prydeinig Gorau' yn seremoni gwobrwyo'r ''BRITS'' yn 2007. Yn 2007 hefyd, rhyddhaodd y band eu hail albwm, 'Favourite Worst Nightmare', a gafodd ei enwebu am wobr ''Mercury Music'' yn 2007. Perfformiodd y band fel un o'r prif fandiau yng Ngwyl byd-enwog ''[[Glastonbury]]'' ym mis Mehefin 2007. Enillodd yr albwm y wobr am yr albwm gorau, ynghyd â'r wobr am y band gorau yng Ngwobrau'r ''BRITs'' yn 2008 am yr ail flwyddyn yn olynol. Cyfeirir at y band yn aml fel un o fandiau mwyaf poblogaidd y funud ac mae gwerthiant eu recordiau a'r gwobrwyon maent wedi ennill yn adlewyrchiad teg o hyn.
 
 
== Ymddangosiadau Ar y Teledu ==
 
Ym mis Hydref 2005, ymddangosodd y grŵp ar y teledu am y tro cyntaf, gan berfformio ar 'Popworld' (Hydref 15fed), 'E4 Music' a 'Later...with Jools Holland' (28ain Hydref). Ers yr ymddangosiadau hyn fodd bynnag, daeth y band yn enwog am wrthod a pherfformio ar raglenni teledu eraill. Dro ar ôl tro, roeddent wedi gwrthod cynigion i chwarae ar sioe siartiau'r [[BBC]], 'Top of the Pops' yn ogystal a CD:UK ar [[ITV]].
 
Gwelwyd penderfyniad y band i beidio a pherfformio yng Ngwobrau'r BRITs fel rhan o'u atgasedd tuag at fyd y teledu, er i ddatganiad i'r wasg esbonio fod hyn yn sgîl y ffaith eu bod wedi trefnu eisoes i fynd ar Daith Gwobrau [[NME]]. Yn eu haraith derbyn i wobr Act Newydd Gorau, a gafodd ei recordio ymlaen llaw, llwyddodd y band i ddarganfod "pumed aelod dirgel" a wnaeth yr holl siarad. Daeth i'm amlwg mai Keith Murray, prif leisydd We Are Scientists a ffrind i'r band a dderbyniodd y wobr ar eu rhan er mwyn cymhlethu'r gynulleidfa.
 
Er gwaethaf eu hatgasedd o ymddangos ar deledu Prydeinig, gwnaeth y band eu hymddangosiad teledu mwyaf pan ymddangosasant ar Saturday Night Live ar yr 11eg o Fawrth 2006 er mwyn dechrau eu taith o amgylch y Deyrnas Unedig. Gwerthwyd yr holl docynnau ar gyfer y daith hon. Roedd eu perfformiad yn cynnwys y caneuon "I Bet You Look Good on the Dancefloor" a "A Certain Romance", a gwelwyd y gair "ASBO" wedi'i argraffu ar y drwm bâs. Fodd bynnag, ychydig cyn y solo gitâr yn "A Certain Romance", beirniadodd Turner aelod o'r gynulleidfa a oedd yn dylyfu gên a thaflodd Cook ei gitâr tuag at uchel-seinydd ar ddiwedd y gân.
 
Ym mis Chwefror 2007, ni fynychodd y band seremoni Gwobrwyo'r BRITs am eu bod yn recordio'r fideo cerddorol ar gyfer eu sengl newydd "Brainstorm" ar yr un diwrnod. Er i ambell berson weld y penderfyniad hwn fel ffordd arall o sarhau'r BRITs, dywedodd Helders wrth BBC 6Music "We're filming the video that day, so we're not going to be anywhere near it. We haven't snubbed it, we're just busy boys getting ready to go on tour again." Wedi iddynt ennill categorïau "Band Prydeinig Gorau" a'r "Albwm Prydeinig Gorau", danfonodd y band eu hareithiau diolch ar ffurf fideo. Ar y fideo, gwelwyd y band wedi'u gwisgo i fyny fel cymeriadau o'r [[Wizard of Oz]] a [[The Village People]]. Ymddangosodd y band hefyd ar nifer o sioeau siarad yn hwyr yn y nos megis Late Night with Conan O'Brien, Late Show with David Letterman, Jimmy Kimmel Live! a Later with Jools Holland.
 
Ym mis Chwefror 2008 mynychodd y grŵp seremoni Gwobrwyo'r BRITs, lle enillasant yr Albwm Prydeinig Gorau am Favourite Worst Nightmare a'r Grŵp Prydeinig Gorau. Cawsant eu henwebu am Act Gorau Prydeinig sy'n Perfformio'n Fwy, ond ennillodd [[Take That]] y wobr honno.