Arctic Monkeys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 24:
 
Roedd y band hefyd yn rhan o seremoni di-drefn Gwobrau'r [[Brits]] yn 2008, seremoni a feirniadwyd lawer; tra'n derbyn eu gwobr Brit am y Grŵp Prydeinig Gorau yn 2008, gwnaeth y band joc eu bod wedi dod o'r Ysgol y Brits yn [[Croydon]]. Mae disgyblion sy'n mynychu'r ysgol yn derbyn y cyfle i fod yn rhan o'r gynulleidfa yn ystod y seremoni; mae Gwobrau'r Brits yn cefnogi'r ysgol yn helaeth. Daw'r band o [[Sheffield]] ac felly nid oedd wedi mynychu'r ysgol. Yn hytrach, roeddent yn gwawdio ennillwyr blaenorol y noson sef [[Adele]] a [[Kate Nash]] (cyn-ddisgyblion o'r ysgol) , a ddiolchodd y dorf a'u hysgol yn ystod eu hareithiau wrth dderbyn eu gwobrau. Cafodd araith yr Arctic Monkeys ei fyrhau a'i olygu gan [[ITV]].
 
 
== Gwleidyddiaeth ==
 
Mae poblogrwydd yr Arctic Monkeys yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, wedi arwain at wleidyddion a newyddiadurwyr yn cyfeirio at y band yn eu hareithiau a'u hysgrifennu. Ym mis Mai 2006, dywedodd [[Cynghellor]] y Trysorlys ar y pryd, [[Gordon Brown]], mewn cyfwelid gyda chylchgrawn New Woman ei fod yn gwrando arnynt yn ddyddiol gan honni ei bod yn " really wake you up in the morning", er mewn cyfweliad yn hwyrach ni fedrai enwi'r un o'u caneuon. Yn ddiweddarach, adroddwyd fod Brown wedi cael ei gam-ddyfynnu. Mewn cyfweliadau ers hynny, mae Brown wedi cadarnhau nad yw'n eu hoffi mewn gwirionedd gan ddweud mai'r unig beth a ddywedodd yw y byddai'r band yn llwyddo i ddeffro person yn y bore. Parhaodd i gyfeirio at hyn yn ei araith i Gynhadledd Flynyddol y Blaid Lafur pan yn sôn am y perygl o gynhesu byd-eang, gan ddweud ei fod yn "more interested in the future of the Arctic Circle than the future of the Arctic Monkeys". Cyfeiriodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar y pryd, Menzies Campbell, at y band hefyd yng Nghynhadledd Flynyddol y Democratiaid Rhyddfrydol, gan honni'n anghywir eu bod wedi gwerthu mwy o recordiau na [[The Beatles]], sylwad a arweiniodd at lawer o wawdio gan y cyfryngau. Mynegodd helders ac O'Malley eu amheuon am y cyngherddau Live Earth yn 2007 hefyd.
 
 
== Albymau ==