Afon Tywi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: lt:Tyvis
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Mae Afon Tywi yn tarddu ar lethrau [[Crug Gynan]], yn agos i'r ffin rhwng [[Ceredigion]] a [[Powys|Phowys]]. Yn fuan wedyn mae'n llifo trwy [[Llyn Brianne]], cronfa a ffurfiwyd trwy adeiladu argae ar draws yr afon. Pwrpas yr argae yw rheoli llif yr afon, a'i gwneud yn bosibl i gymeryd dŵr o'r afon yn [[Nant Garedig]]. Mae'r cynllun yma yn darparu dŵr i ran helaeth o ardaloedd diwydiannol de Cymru. Yn fuan ar ôl iddi adael y llyn, mae [[Afon Doethïe]] yn ymuno â hi.
 
Mae'r afon yn llifo tua'r de-orllewin ac yn cyrraedd [[Sir Gaerfyrddin]] gan lifo trwy [[Llanymddyfri]], lle mae [[Afon Brân]] yn ymuno â hi, [[Llanwrda]] a [[Llangadog]], lle mae [[Afon Sawdde]] yn ymuno. Mae [[Afon Dulais (Sir Gaerfyrddin)|Afon Dulais]] yn ymuno ychydig cyn cyrraedd [[Llandeilo]] ac [[Afon Cennen]] yn fuan wedyn. Ychydig ar ôl mynd heibio [[Llanarthne]], mae [[Afon Cothi]] yn ymuno. Mae'n llifo trwy dref [[Caerfyrddin]], lle mae [[Afon Gwili]] yn ymuno yn [[Abergwili]]. Mae'n cyrraedd y môr gerllaw [[Llansteffan]], gan rannu [[aber]] ag [[Afon Tâf]] ac [[Afon Gwendraeth]].
 
[[Categori:Afonydd Cymru|Tywi]]