Islwyn Ffowc Elis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
→Bywyd a gwaith: Ardddull a manion cyffredinol, replaced: Yr oedd → Roedd using AWB |
||
Llinell 14:
Ers yr ail ryfel byd roedd nofelau Saesneg ysgafn poblogaidd clawr papur, diwylliant America a dulliau newydd cyfathrebu yr 20g wedi bod yn denu’r ifainc ledled Ewrop, gan gynnwys y Cymry Cymraeg. Roedd Islwyn Ffowc Elis ymhlith y rhai a welent fod yn rhaid creu diwylliant poblogaidd cyfoes rhag i’r ifainc droi eu cefn ar y Gymraeg. Roedd ei nofel gyntaf, ''Cysgod y Cryman'', llawn cymeriadau ifainc byw, yn stori afaelgar oedd yn ymdrin â bywyd a themâu cyfoes. Dyma'r nofel a osododd sail y nofel Gymraeg fodern. Trwy’r nofel hon denwyd darllenwyr ifainc newydd i’r nofel Gymraeg.<ref name="Stephens">''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'' Gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru 1986)</ref><ref name="BBC">[http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddddwyrain/enwogion/llen/pages/islwyn_ffowc_elis.shtml 'Islwyn Ffowc Elis', gwefan y BBC (adalwyd 31 Mai 2008)]</ref> Mae’r ffaith mai ''Cysgod y Cryman'' yw’r nofel Gymraeg sydd wedi gwerthu orau yn tystio i'w llwyddiant. ''Cysgod y Cryman'' enillodd gystadleuaeth ‘Llyfr y Ganrif’ yn [[1999]] ar gyfer llyfr Cymraeg mwyaf poblogaidd yr [[20fed ganrif|ugeinfed ganrif]].<ref>Llwyd t. 123</ref> Dewiswyd ''Cysgod y Cryman'' hefyd yn un o ddeg o ‘Lyfrau’r Ganrif’ yn [[2007]] mewn ymgyrch a drefnwyd gan S4C.
Yr un sêl dros y Gymru Gymraeg a lywiau ei gynnyrch llenyddol a ysgogai ei waith dros [[Plaid Cymru|Blaid Cymru]]. Bu’n ymgeisydd seneddol ym Maldwyn ym [[1962]] a [[1964]]. Ef oedd swyddog cyhoeddiadau Plaid Cymru adeg [[Is-etholiad Caerfyrddin, 1966]]. Ef oedd yn gyfrifol am lenyddiaeth a chyhoeddusrwydd Plaid Cymru, gan gynllunio strategaeth gyhoeddusrwydd ymwthgar i Blaid Cymru a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf adeg ymgyrch Caerfyrddin.<ref>Llwyd tt. 72–85</ref>
|