Iwerddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up |
|||
Llinell 8:
Yn y cyfnod cynnar, nid oedd Iwerddon yn ynys, gan fod tir yn ei chysylltu ag Ynys Prydain ac ag [[Ewrop]]. Mae'r olion cyntaf sydd wedi eu darganfod hyd yn hyn yn dyddio i tua 8000 CC.. Mae llawer mwy o olion o'r cyfnod [[Neolithig]], gyda nifer o feddau neu gromlechi enwog o'r cyfnod yma, megis [[Newgrange]].
Credir i'r cenhadon Cristionogol cyntaf gyrraedd yr ynys tua dechrau neu ganol y [[5g]], gyda [[Sant Padrig]] yn arbennig o amlwg. Erbyn tua [[600]] roedd yr hen grefydd wedi diflannu i bob pwrpas. O tua [[800]] bu llawer o ymosodiadau gan y [[Llychlynwyr]], a bu difrod fawr ar y mynachlogydd o ganlyniad. Ymsefydlodd rhai o'r Llychlynwyr ar arfordir dwyreiniol Iwerddon a thyfodd [[Dulyn]] yn ganolfan bwysig yn y byd Llychlynaidd. Roedd yna gysylltiadau cryf rhwng "Gwŷr Dulyn" a [[Teyrnas Gwynedd|brenhinoedd Gwynedd]] erbyn yr [[Oesoedd Canol]]. Ganwyd [[Gruffudd ap Cynan]] yn Nulyn a'i fagu yn Swords gerllaw.
Yn y cyfnod yma roedd gan Iwerddon ei senedd ei hun, er nad oedd gan y mwyafrif o'r brodorion, oedd yn [[Eglwys Gatholig|Gatholigion]], unrhyw ran mewn llywodraeth. Bu gwrthryfel yn [[1798]] gyda rhywfaint o gymorth o Ffrainc, ond cafodd ei orchfygu a lladdwyd miloedd lawer. Yn [[1801]], gwnaed i ffwrdd a senedd Iwerddon a chafodd yr ynys ei hymgorffori yn y Deyrnas Unedig. Yn 1823, dechreuodd cyfreithiwr Catholig, [[Daniel O'Connell]], ymgyrch i sicrhau'r bleidlaid i Gatholigion, a llwyddwyd i sicrhau hyn yn 1829. Yn y cyfnod 1845-1849 effeithiwyd ar yr ynys gan "[[Newyn Mawr Iwerddon|Y Newyn Mawr]]" ([[Gwyddeleg]]: ''An Gorta Mór''). Credir i tua miliwn o bobl farw o newyn a gorfodwyd i nifer llawer mwy ymfudo o Iwerddon i geisio bywoliaeth. Lleihaodd poblogaeth Iwerddon o 8 miliwn cyn y newyn i 4.4 miliwn yn [[1911]]. Yn rhannol oherwydd hyn, ac hefyd oherwydd effaith ysgolion Saesneg eu hiaith, dechreuodd y ganran o'r boblogaeth a fedrai'r iaith Wyddeleg leihau, a diflannodd yn hollol o rai ardaloedd.
|