Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Melangell"

Ychwanegwyd 235 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
ychwanegu gwybodaeth
B
B (ychwanegu gwybodaeth)
 
==Hanes a thraddodiad==
Yn ôl traddodiad, roedd yn enedigol o [[Iwerddon|Iwerddon.]] Bu yn ferch i Eithne Wyddelles a Cyfwlch Addfwyn, perthynas i Elen o Gaernarfon. Ffôdd i osgoi priodas oedd wedi ei threfnu iddi gan ei thad, a daeth i [[Powys|Bowys]] i fyw yn unig ym mhen uchaf dyffryn [[Afon Tanad]]. Un diwrnod daeth Brochwel, Tywysog Powys, (efallai [[Brochwel Ysgithrog]]) i'r dyffryn i hela. Ymlidiodd ei gŵn hela [[ysgyfarnog]], a redodd at Melangell a llochesu dan ei gwisg. Gwrthodasant y cŵn mynd ymlaen; rhedasany i ffwrdd dan ubain. Gwnaeth hyn ddigon o argraff ar Brochwel nes peri iddo roi'r dyffryn, a elwir yn awr yn [[Pennant Melangell|Bennant Melangell]] iddi.
 
Daeth Melangell yn abades cymuned Cristnogol fechan yno, ac mae'r eglwys yno wedi ei chysegru iddi. Yn yr eglwys gellir gweld [[creirfa]] Melangell, sydd wedi ei ail-adeiladu wedi iddo gael ei ddinistrio adeg y [[Diwygiad Protestannaidd]] ac sy'n un o'r esiamplau gorau o'i fath ym Mhrydain. Ymhen dwyreiniol yr eglwys mae cell fach hanr gron a elwir 'Cell y Bedd' Credir fod Melangell wedi claddu yno. Ail adeiladwyd y cell yn y 20g ar seiliau o'r 10g.
 
Roedd yr eglwys yn gyrchfan boblogaidd i bererinion yn y Canol Oesoedd, ac yn ddiweddar mae'r cyngor sir wedi creu llwybr "Pererindod Melangell" yn arwain yno. Mae Melangell yn nawddsant [[ysgyfarnog]]od a elwir "wyn bach Melangell" ym Maldwyn. Yn ail haner yr ugeinfed canrif, gyda diddordeb yn yr amgylchfyd yn tyfu daeth yn poblogaedd fel "nawddsantes" bywyd gwyllt yn cyfredinol.
1,137

golygiad