Ogof Bontnewydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi symud Ogof Pontnewydd i Ogof Bontnewydd trwy ailgyfeiriad.: Bontnewydd yw enw cywir y lle.
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Neanderthaler Fund.png|thumb|200px|right|Argraff arlunydd o Ddyn Neanderthal]]
 
Mae '''Ogof PontnewyddBontnewydd''' yn nyffryn [[Afon Elwy]] yn [[Sir Ddinbych]] yn adnabyddus fel y man lle darganfuwyd y gweddillion cynharaf o fodau dynol ar ddaear [[Cymru]].
 
Bu [[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]] yn gyfrifol am gloddio yma rhwng 1978 a 1995. Ymysg y darganfyddiadau yn yr ogof yr oedd dannedd a rhan o ên bodau dynol oedd yn ffurf gynnar ar [[Dyn Neanderthal|Ddyn Neanderthal]]. Cafwyd hyd i 19 o ddannedd i gyd, yn perthyn i bum unigolyn yn amrywio o ran oed o blant ieuanc i oedolion. Credir bod perchenogion y rhain wedi byw rywbryd rhwng 230,000 a 185,000 o flynyddoedd yn ôl. Cafwyd hyd i lawfwyeill Neanderthalaidd hefyd, ac esgyrn anifeiliaid gydag olion cigydda arnynt.