Gwobr Grammy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Mae Gwobrau'r Grammy (a alwyd yn y Gramaphone Awards yn wreiddiol) - neu'r Grammys - yn cael eu cyflwyno'n flynyddol gan y Academi Cenedlaethol yr Unol Daleithiau ar gyfer y Celfyddy...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:57, 18 Medi 2008

Mae Gwobrau'r Grammy (a alwyd yn y Gramaphone Awards yn wreiddiol) - neu'r Grammys - yn cael eu cyflwyno'n flynyddol gan y Academi Cenedlaethol yr Unol Daleithiau ar gyfer y Celfyddydau a'r Gwyddorau Recordio am lwyddiannau ysgubol yn y diwydiant recordio. Yn y seremoni gwobrwyo ceir perfformiadau gan artistiaid blaenllaw a darlledir rhai o'r Gwobrau Grammy mwyaf poblogaidd ar y teledu. Ar hyn o bryd, Llywydd yr Academi yw Neil Portnow. Ystyrir derbyn Grammy fel yr anrhydedd uchaf yn y byd cerddorol, a dyma fersiwn cyfatebol y diwydiant i'r Gwobrau Academi (yr Oscars) ar gyfer ffilmiau.

Sefydlwyd y gwobrau ym 1958. Yn ystod y 1960au, cyn i'r Grammys gael eu darlledu am y tro cyntaf ar ABC ym 1971, darlledwyd cyfres o raglenni arbennig wedi eu rhag-recordio ar ABC o'r enw The Best on Record.