Sioe gerdd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
HuwThomas (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 03:49, 9 Chwefror 2006

Mae Sioeau cerdd yn ffurf o adloniant sy'n cyfuno cerddoriaeth, dawns a sgwrs. Perthyna'n agos i Opera, ond yn gyffredinol bydd Sioe gerdd yn defnyddio cerddoriaeth boblogaidd, tra na fydd defnydd o sgwrs mewn Opera. Ceir eithriadau er hynny.

Datblygodd Sioeau cerdd cynnar allan o Operetta. Bu Jacques Offenbach yn Ffrainc, a Gilbert a Sullivan yn Lloegr yn llwyddiannus iawn yn creu Opperettas, gyda cherddoriaeth ysgafnach na Opera, a chyda sgwrsio. Yn sgil poplogrwydd yr Operettas cynnar, datblygodd y Sioeau cerdd cynnar, gan roi pwyslais ar actorion enwog oedd yn perfformio ac ar eitemau dawns mawr. Daeth 'Broadway' yn Efrog Newydd, a'r 'West End' yn Llundain yn ganolfannau pwysig i'r diwydiant.

Mae Cymru hefyd wedi cyfrannu i fyd Sioeau cerdd. Ymhlith yr actorion o Gymru sydd wedi perfformio yn y 'West End' mae Sian Cothi a Michael Ball. Ceir traddodiad diweddar o gyfansoddi Sioe gerdd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Ymysg y sioeau yma ceir 'Pum Diwrnod o Ryddid' ac 'Er Mwyn Yfory' a gynhyrchwyd gan Gwmni Theatr Maldwyn.