37,236
golygiad
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BNo edit summary |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BNo edit summary |
||
Safle llys tywysogion [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] yn [[Abergwyngregyn]] oedd '''Garth Celyn'''. Yn wreiddiol, [[Aberffraw]] oedd prif lys brenhinllin Gwynedd, ond Garth Celyn, prif lys cantref [[Arllechwedd]], oedd y prif lys yn ystod teyrnasiad [[Llywelyn Fawr]], a pharhaodd yn brif lys yng nghyfnod ei olynwyr [[Dafydd ap Llywelyn]] a [[Llywelyn ap Gruffudd]]. Saif mewn safle strategol bwysig, lle mae'r hen ffordd o'r dwyrain dros [[Bwlch y Ddeufaen|Fwlch y Ddeufaen]] yn disgyn at arfordir [[Afon Menai]].
Yma y bu farw [[Siwan (gwraig Llywelyn Fawr)|Siwan, gwraig Llywelyn Fawr]] a Dafydd ap Llywelyn, ac yma y cafwyd [[Gwilym Brewys]] yn ystafell wely Siwan yn [[1230]]. Ceir nifer o lythyrau a dogfennau eraill sy'n nodi ei bod wedi eu hysgrifennu yng Ngarth Celyn.
|
golygiad