Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Wicipedia:Cwestiynau Cyffredin"

Ychwanegwyd 907 beit ,  14 o flynyddoedd yn ôl
ychwanegu
(ychwanegu)
Ar y dudalen hon gallwch gael atebion i gwestiynau sy'n cael eu codi'n aml gan ddefnyddwyr y safle. Ar gyfer mwy o gymorth, ewch i'r [[Wicipedia:Cymorth|dudalen cymorth]].
 
==Beth yw Wiciwici?==
 
Mae wici yn gasgliad o dudalennau gwe sydd wedi'u cydgysylltu. Gall unrhywun olygu unrhyw dudalen (gydag eithriadau), gan ychwanegu dolennau i dudalennau eraill ar y safle. Yn wir, dyma hanfod y syniad o wici: bod mwy a mwy o gysylltiadau yn creu rhwydwaith eang o dudalennau.
 
==Beth yw Wicipedia?==
 
Mae Wicipedia yn ymgais i greu gwyddoniadur Cymraeg ar y we sydd ar gael i bawb. Cychwynnodd y fersiwn Saesneg wreiddiol yn 2001, gyda'r fersiwn Gymraeg yn dilyn yn 2003. Am fwy o wybodaeth darllenwch [[Wicipedia:Ynglŷn â Wicipedia|Ynglŷn â Wicipedia]].
 
Rheolir Wicipedia gan gwmni di-elw, [http://wikimediafoundation.org/ y Sylfaen Wicimedia]. Mae'r cwmni hefyd yn rheoli chwaer-brosiectau Wicipedia, gan gynnwys y [http://cy.wiktionary.org Wiciadur]. Mae'r cyllid yn dod o gyrchoedd codi arian blynyddol.
 
O ran erthyglau'r safle, does dim hawlfraint ganddynt, o leia nid yn y modd arferol. Rhyddheir pob dogfen o dan Drwydded Dogfennaeth Rhydd GNU, sydd yn golygu y gall unrhywun gopïo'r deunydd yma, gyda chydnabyddiaeth. Gweler ''[[Wicipedia:Hawlfraint]]'' am fwy o fanylion.
 
==Sut alla i gysylltu â'r prosiect?==
 
Mae yna sawl ffordd i gysylltu â phobl sy'n gysylltiedig â Wicipedia. Os ydych am ofyn cwestiwn cyffredinol, ewch i'r [[Wicipedia:Y Caffi|Caffi]] ac ychwanegwch nodyn yno. Os ydych chi am gysylltu ag unigolyn yn uniongyrchol, gadewch nodyn ar ei dudalen sgwrs; fe fydd y nodyn yn weladwy i bawb. Ar y llaw arall os ydych am anfon neges breifat, mae'n bosib fod y defnyddiwr wedi cantiatáu i chi anfon e-byst ato; os felly fe fydd cysylltiad i'r chwith o'i dudalen defnyddiwr.
 
 
==A ddylwn i gofrestru cyn golygu?==
Does dim rhaid gwneud, ond mae yna fanteision. Os ydych chi'n bwriadu cyfrannu'n gyson yma, mae'n syniad da agor cyfrif, gan nad yw defnyddwyr anhysbys yn cael cychwyn tudalennau newydd, eu hail-enwi, nac uwchlwytho lluniau. I weld rhestr o fanteision eraill, gweler ''[[Wicipedia:Cofrestru]]''.
 
Does dim rhaid gwneud, ond mae yna fanteision. Os ydych chi'n bwriadu cyfrannu'n gyson yma, mae'n syniad da agor cyfrif, gan nad yw defnyddwyr anhysbys yn cael cychwyn tudalennau newydd, eu hail-enwi, nac uwchlwytho lluniau. I weld rhestr o fanteision eraill, gweler [[Wicipedia:Cofrestru]].
 
==Sut allwch chi fod yn sicr fod y wybodaeth yn gywir?==
Gall unrhyw un olygu unrhyw erthygl, felly wrth gwrs mae'n bosib y gall rhywun ychwanegu gwybodaeth anghywir. Ar y llaw arall, mae eraill yn cadw llygad barcud ar yr erthyglau, gan ddefnyddio'u [[Wicipedia:Rhestr gwylio|rhestr gwylio]], neu'r dudalen 'Newidiadau Diweddar'. Mae gwybodaeth anghywir fel rheol felly yn cael ei gywiro'n gyflym. Mae'r broses hon yn gwella wrth i fwy o bobl ymuno. Fe'ch annogir i roi help llaw trwy gywiro erthyglau a rhoi cyfeiriadau defnyddiol.
 
==Sut ydw i'n chwilio Wicipedia?==
Y ffordd symlaf yw i deipio'r pwnc yn y blwch 'chwilio' i'r chwith o'r dudalen, a clicio ar 'Chwilio'. Gallwch hefyd ddefnyddio Google: [http://www.google.com/custom?sa=Google+Search&domains=cy.wikipedia.org&sitesearch=cy.wikipedia.org&hl=cy dilynwch y cysylltiad hwn] i chwilio drwy Wicipedia yn Gymraeg, ond cofiwch nad yw Google yn cynnwys y diwygiadau mwyaf diweddar.
 
Gweler ''[[Wicipedia:Chwilio]]'' am fwy o wybodaeth.
 
==Pam fod ambell i dudalen yn las, a'r gweddill yn wyn?==
1,978

golygiad