Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Ychwanegwyd 9 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
Mae llawer o ysgrifenwyr wedi anghofio am y '''Brythoniaid''' - maen' nhw'n defnyddio'r gair "[[Y Celtiaid|Celtiaid]]" am ei fod mor ffasiynol ar hyn o bryd.
 
Y Brythoniaid oedd y bobl oedd yn trigobyw yn ynys Prydain i'r de o [[Ucheldiroedd yr Alban]] cyn goresgyniad [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|y Rhufeiniaid]]. Nid un "genedl" oeddynt ond yn hytrach gasgliad o freninaethau annibynnol mawr a bach yn seiliedig ar batrymau llwythol.
 
Erbyn i'r Rhufeiniaid adael yn [[410]] O.C. roedd [[Lladin]], iaith y Rhufeiniaid, wedi dylanwadu ar y [[Brythoneg|Frythoneg]] ac roedd hi'n dechrau newid ei strwythr. Roedd yr iaith yn datblygu a'r ysgogiad i gofnodi gwahanol ddeunydd - ysgrifau am hanes a dirwyiad tybiedig y genedl gan y mynach [[Gildas]], canu [[Taliesin]] ac [[Aneirin]]) a chofnodion a phytiau mewn llawysgrifau eglwysig - yn arwain at gychwyn [[llenyddiaeth Gymraeg]].
Yn llenyddiaeth gynnar Cymru defnyddir yr enwau "Cymry" a "Brython" (Brythoniaid) ochr yn ochr.
 
Roedd y Cymry'n ymwybodol iawn o'iu perthynas â'r Llydawyr yn [[Llydaw]] (Breton) a'r Cernywiaid yng [[Cernyw|Nghernyw]]. Dyma lle'r aeth nifer o'r Brythoniaid, yn ôl chwedl [[Macsen Wledig]] a ffynonellau eraill, wedi'r goresgyniad Sacsonaidd yn [[Lloegr]] - a dyma lle ymsefydlodd nifer o'r seintiau Brythonaidd cynnar.
 
==Llyfryddiaeth==