Live 8: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Roedd Live 8 yn gyfres o gyngherddau codi arian a gynhaliwyd ar yr 2il o Orffennaf yng ngweledydd y G8 ac yn Ne Affrica. Cafodd y cyngherddau eu hamseru i gyd-fynd â Chynhadledd...
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd Live 8 yn gyfres o gyngherddau codi arian a gynhaliwyd ar yr 2il o Orffennaf yng ngweledydd y [[G8]] ac yn Ne Affrica. Cafodd y cyngherddau eu hamseru i gyd-fynd â Chynhadledd G8 a gynhaliwyd yng Ngwesty [[Gleneagles]] yn Auchterrarder, yr [[Alban]] o'r 6ed-8fed o Orffennaf 2005. Roedd y cyngherddau hefyd yn cyd-fynd ag ugain mlynedd ers ers [[Live Aid]]. Cafodd y cyngherddau eu cynnal er mwyn cefnogi'r ymgyrch Brydeinig '[[Make Poverty History]]' a'r 'Global Call for Action Against Poverty'. Bwriad i sioeau oedd i roi pwysau ar arweinwyr y byd i waredu'r dyled sydd gan wledydd tlotaf y byd, i gynyddu a gwella'r cymorth a gynigir iddynt ac i negydu rheolau masnach deg er lles y gwledydd tlotaf. Cynhaliwyd deg cyngerdd wahanol ar yr un pryd ar yr 2il o Orffennaf ac un ar y 6ed o Orffennaf. Ar y 7fed o Orffennaf, cytunodd arweinwyr y G8 i ddyblu lefelau 2004 o gymorth i wledydd tlawd o $25 biliwn doler Americanaidd i $50 biliwn [[doler]] Americanaidd. Roedd hanner yr arian i fynd i Affrica.
 
Perfformiodd dros 1,000 o gerddorion yn y cyngherddau a chafodd Live 8 ei ddarlledu ar 182 o rwydweithiau teledu ac ar 2,000 o rwydweithiau radio.