Ynys Bŷr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Caldey_Island_map_1952.jpg|200px|bawd|Map o'r ynys (1952)]]
[[Ynys]] fechan yn y môr ar ymyl [[Bae Caerfyrddin]] i'r de o [[Dinbych y Pysgod|Ddinbych y Pysgod]] yn [[Sir Benfro]] yw '''Ynys Bŷr''' ([[Saesneg]]: ''Caldey Island'' o'r [[Hen Norseg]] ''Keld-Eye'' 'Ynys Oer'). Mae'n cael ei henwi ar ôl y mynach cynnar '''[[Pŷr''']] (digwydd ei enw yn ail ran enw tref [[Maenorbŷr]], ar y tir mawr cyferbyn â'r ynys, yn ogystal). Mae'r ynys tua tair milltir o hyd, ac o hinsawdd fwyn gyda'r awel gynnes yn dod i mewn o'r [[cefnfor Iwerydd|Iwerydd]].
 
Mae'r ynys wedi bod yn lle dymunol i fyw ers gwawr y dynolryw yng Nghymru. Mae [[archaeoleg]]wyr wedi darganfod olion pobl oedd yn byw yn [[Hen Oes y Cerrig yng Nghymru|Hen Oes y Cerrig]] yn [[Ogof Nana]] ar yr ynys.
 
Mae'n debyg ei bod fwyaf enwog am ei [[mynachlog]]. Adeiladwyd y gyntaf gan [[Sant]] [[Dyfrig]] yn y [[chweched ganrif]]. [[Clas]] Cymreig oedd y sefydliad hwnnw. Yn ôl un traddodiad, claddwyd Sant [[Cathen]], sefydlydd [[Llangathen]], yno. Yn amser y [[Normaniaid]] adeiladwyd [[Priordy Ynys Bŷr|priordy]] ar safle'r hen fynachlog ac mae rhan o'r hen adeilad yno o hyd. Yr oedd y [[Benedictiaid]] yno o [[1136]] tan i [[Harri VIII o Loegr]] ddiddymu'r mynachlogydd yn [[1536]]. Sefydlodd y [[Sistersiaid]] Diwygiedig fynachlog ar yr ynys yn [[1906]] ac maent yno hyd heddiw.
Llinell 16:
* {{eicon en}} [http://www.caldey-island.co.uk/ Gwefan swyddogol yr ynys]
 
==Gweler hefyd==
*[[Maenor Bŷr]]
*[[Pŷr]]
 
[[Categori:Ynysoedd Cymru|Bŷr]]