Inis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 06:33, 25 Medi 2008

[[Image:Ennis 01.jpg|thumb|225px|The Eglwys gadeiriol Sant Pedr a Sant Paul ar hyd Stryd O'Connell

Prif dref Swydd Clare yn nhalaith Munster, Gweriniaeth Iwerddon yw Inis (Saesneg: Ennis). Saif ar Afon Fergus, i'r gogledd o Limerick ac i'r de o Galway, ar y briffordd N18. Yr enw llawn gwreiddiol oedd Inis Cluain Ramh Fhada ("Ynys y Rhwyfo Hir"). Saif o fewn 12 milltir i Faes Awyr Shannon. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 24,253.

Tyfodd Inis o amgylch yr abaty Ffransiscaidd, a sefydlwyd tua 1242. Ceir Eglwys gadeiriol Sant Pedr a Sant Paul yma hefyd. Mae'n ganolfan bwysig i gerddoriaeth draddodiadol Iwerddon, a chynhelir gwyl gerddorol y Fleadh Nua yma'n flynyddol tua diwedd Mai.

Ceir cofgolofn yma i Daniel O'Connell, oedd yn frodor o'r dref. cy:Inis