Clefri poeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae'r Clefri poeth, sy'n cael ei adnabod hefyd fel y llwg neu y sgyrfi, yn glefyd sy'n ganlyniad i ddiffyg Fitamin C. Mae symptomau yn cynnwys gwendid...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae'r Clefri poeth, sy'n cael ei adnabod hefyd fel y llwg neu y sgyrfi, yn glefyd sy'n ganlyniad i ddiffyg [[Fitamin C]]. Mae symptomau yn cynnwys gwendid, blinder, a breichiau a choesau poenus. Heb ei drin, gall arwain at leihad yng nghelloedd coch y gwaed, [[clefydllid y deintgig]], newidiadau i wallt, a gwaedu o'r croen. Wrth i'r clefyd waethygu, gall amharu ar allu clwyfau i wella, achosi newid ym mhersonoliaeth y claf, ac arwain yn y pen draw at farwolaeth o haint neu waedu.
 
Fel arfer, mae'r clefri poeth yn cael ei achos gan ddiffyg fitamin C yn y deiet. Mae'n cymryd o leiaf mis gydag ychydig neu ddim fitamin C o gwbl cyn y gwelir y symptomau. Erbyn heddiw, mae i'w weld amlaf mewn pobl sy'n dioddef o salwch neu gyflwr meddwl, bwyta anarferol, alcoholiaeth neu henoed sy'n byw ar eu pennau eu hunain. Mae ffactorau risg eraill hefyd yn cynnwys [[dialysis]] a gallu'r perfedd i dreulio bwyd. Mae diagnosis fel arfer yn seiliedig ar arwyddion corfforol, [[pelydrau X]], a gwellhad ar ôl triniaeth.