Clefri poeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Cysylltu ag erthyglau eraill
Llinell 1:
Mae'r Clefri poeth, sy'n cael ei adnabod hefyd fel y llwg neu y sgyrfi, yn glefyd sy'n ganlyniad i ddiffyg [[Fitamin C]]. Mae symptomau yn cynnwys gwendid, blinder, a breichiau a choesau poenus. Heb ei drin, gall arwain at leihad yng [[Cell goch y gwaed|nghelloedd coch y gwaed]], [[llid y deintgig]], newidiadau i wallt, a gwaedu o'r croen. Wrth i'r clefyd waethygu, gall amharu ar allu clwyfau i wella, achosi newid ym mhersonoliaeth y claf, ac arwain yn y pen draw at farwolaeth o haint neu waedu.
 
Fel arfer, mae'r clefri poeth yn cael ei achos gan ddiffyg [[fitamin C]] yn y deiet. Mae'n cymryd o leiaf mis gydag ychydig neu ddim fitamin C o gwbl cyn y gwelir y symptomau. Erbyn heddiw, mae i'w weld amlaf mewn pobl sy'n dioddef o salwch neu gyflwr meddwl, bwyta anarferol, alcoholiaeth neu henoed sy'n byw ar eu pennau eu hunain. Mae ffactorau risg eraill hefyd yn cynnwys [[dialysis]] a gallu'r perfedd i dreulio bwyd. Mae diagnosis fel arfer yn seiliedig ar arwyddion corfforol, [[Pelydr-X|pelydrau X]], a gwellhad ar ôl triniaeth.
 
Mae'n cael ei drin atchweniadau fitamin C sy'n cael eu cymryd trwy'r ceg. Mae gwelliant yn aml i'w weld mewn ychydig ddyddiau gyda gwellhad llwyr mewn ychydig wythnosau. Mae ffynonellau fitamin C yn cynnwys ffrwythau sitrws, tomatos a nifer o lysiau fel tatws. Mae coginio yn aml yn lleihau fitamin C mewn bwydydd.