[[Delwedd:BarryManilow.jpg|200px|bawd|Barry Manilow yn canu]]
| fetchwikidata=ALL
| onlysourced=no
| suppressfields= cenedl dinasyddiaeth
| dateformat = dmy
}}
Canwr-gyfansoddwr, trefnydd a cherddor Americanaidd yw '''Barry Manilow''' (ganwyd '''Barry Alan Pincus'''; [[17 Mehefin]] [[1943]]). Mae ei yrfa yn ymestyn dros 50 mlynedd a mae'n fwyaf adnabyddus am lu o ganeuon poblogaidd fel "Mandy", "Can't Smile Without You", a "Copacabana".
==Bywyd personol==
CychwynnoddCychwynodd Manilow berthynas gyda'r cynhyrchydd teledu Garry Kief yn 1978, a ddaeth yn reolwr arno yn ddiweddarach. Priododd y ddau yn 2014, pan ddaeth [[priodas gyfunryw]] yn gyfreithiol yng Nghaliffornia. Cadwodd y berthynas a'i rywioldeb yn gyfrinach, nes i'r briodas daro'r penawdau yn 2015. Daeth Manilow allan yn 2017 gan ddweud wrth gylchgrawn ''People'' ei fod wedi cadw ei rywioldeb yn gyfrinach oherwydd ei fod yn pryderu y gallai hynny siomi ei ddilynwyr benywaidd, ond roeddent wedi bod yn gefnogol ar ôl dysgu am y briodas.<ref>{{Cite news |url=http://people.com/music/barry-manilow-hid-sexuality-thought-being-gay-would-disappoint-fans |title=Barry Manilow Reveals Why He Didn’t Come Out for Decades: I Thought I Would ‘Disappoint’ Fans If They Knew I Was Gay |last=Nelson |first=Jeff |date=5 Ebrill 2017 |work=People |access-date=2017-04-05}}</ref><ref>{{cite news |url=http://www.dailynews.com/arts-and-entertainment/20170405/barry-manilow-says-hes-gay-and-he-kept-sexuality-secret-for-fans |title=Barry Manilow says he’s gay, and he kept sexuality secret for fans |date=5 Ebrill 2017 |work=Los Angeles Daily News |access-date=2017-04-05}}</ref>