Brwydr Maes Maidog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
b
ehangu, categoriau, rhyngwici
Llinell 1:
ArdalBrwydr yma mhlwyfymladdwyd ar Faes Maidog (neu Faes Meidiog; ''Moydog'' fel rheol mewn ffynonellau Saesneg), yng [[cantref|nghantref]] [[Caereinion]], a safle brwydr yno[[Powys]] ar [[5 Mawrth]] [[1295]] rhwng gwrthryfelwyr Cymreig dan [[Madog ap Llywelyn]] a llu [[Iarll Warwig]] ywoedd '''Brwydr Maes MeidiogMaidog'''.
 
RoeddYr oedd byddin Madog ar ei ffordd i lawr i [[Powys|Bowys]], naill ai i ymosod ar y Saeson ar y Gororau neu i geisio ymuno â'r gwrthryfelwyr eraill yn y De, pan gafodd ei dalddal yn annisgwyl gan luoedd Warwig ym Maes Meidiog, ger [[Llanfair Caereinion]]. Trechwyd Madog a'i ddilynwyr yn llwyr a dyna ddiwedd ar [[Y Gwrthryfel Cymreig 1294-95|y gwrthryfel]] i bob pwrpas.
 
Wedi clywed fod byddin Madog yn gorwedd mewn cwm o fewn cyrraedd i'w gastell yn [[Y Trallwng]], ymdeithiodd Iarll Warwig a'i filwyr trwy'r nos o 4 Mawrth a llwyddasant i amgylchynu'r Cymry. Trefnodd Madog ei wŷr gwaywffon mewn sgwâr amddiffynnol a llwyddodd i wrthsefyll cyrch gan farchoglu'r Saeson a'u gyrru yn eu holau. Ond defnydiodd Warwig y saethwyr [[bwa]] a [[bwa croes]] yn ei lu yn ddeheuig. Lladdwyd nifer o'r Cymry ond llwyddodd Madog a gweddill y fyddin i ddianc trwy rydio [[afon Banwy]]. Bu ymladd pellach mewn lle y cyfeirir ato yn y cofnodion Seisnig fel 'Thesseweit' (lleoliad anhysbys) a chollwyd cyflenwadau byddin Madog. Yn ôl y cofnodion Seisnig, lladdwyd tua chant o Saeson ond tua saith cant o Gymry. Gan nad oes tystiolaeth o'r ochr Gymreig mae'n bosibl bod nifer y colledion Cymreig wedi ei chwyddo, ond cafodd y frwydr effaith ar y gwrthryfel a ddirwynodd yn araf i ben. Ffoes Madog ond cafodd ei ddal gan y Saeson yng Ngorffennaf yn yr un flwyddyn.
 
==Darllen pellach==
Llinell 8 ⟶ 10:
[[Categori:Hanes Cymru]]
[[Categori:Brwydrau Cymru]]
[[Categori:Cymru'r Oesoedd Canol]]
[[Categori:1295]]
 
[[en:Battle of Maes Moydog]]