Madog ap Llywelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
categoriau
B dolen
Llinell 1:
Prif arweinydd [[gwrthryfel Cymreig 1294-95]], a elwir weithiau 'Gwrthryfel Madog', oedd '''Madog ap Llywelyn''' (fl. [[1294]]). Gyda [[Cynan ap Maredudd]] yn y Canolbarth a [[Maelgwn ap Rhys (gwrthryfelwr)|Maelgwn ap Rhys]] y De, llwyddodd am gyfnod i ryddhau rhannau o Gymru o afael y Saeson fel arweinydd gwrthryfel cenedlaethol a ymladdwyd ar draws Gymru.
 
Roedd Madog ap Llywelyn yn aelod o deulu brenhinol [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]]. Bu'n wrthwynebus i bolisïau [[Llywelyn ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]], cyn y goncwest. Mabwysiadodd y teitl Tywysog Cymru ac arweiniodd y [[Cymry]], oedd wedi'u digio gan drethi newydd a thelerau [[Statud Rhuddlan]] ([[1284]]), mewn cyfres o ymosodiadau ar filwyr [[Edward I o Loegr]]. Uchafbwynt y gwrthryfel oedd yr ymosodiad ar [[Caernarfon|dref Caernarfon]] a'i [[Castell Caernarfon|chastell]] yn 1294. Bu Madog a'i ddilynwyr yn weithgar yn y [[Canolbarth Cymru|Canolbarth]], ym [[Môn]] ac yn [[y Berfeddwlad]] hefyd, yn arbennig yn [[arglwyddiaeth]] [[Dinbych]].
 
Mewn ymateb daeth Edward I i [[Gogledd Cymru|ogledd Cymru]], gan gyrraedd [[Castell Conwy]] ar [[Gŵyl San Steffan|Ŵyl San Steffan]] 1294, ond i gael ei hun dan warchod yno am ddeg diwrnod ym mis Ionawr. Adferodd y brenin ei awdurdod serch hynny ond parhaodd y [[gwrthryfel]] am gyfnod. Yna, pan oedd ef a'i wŷr ar eu ffordd i lawr i [[Powys|Bowys]] yn 1295, cafodd ei drechu gan [[Iarll Warwig]] ym [[Brwydr Maes Maidog|Mrwydr Maes Maidog]].