John Parry (Y Telynor Dall): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
chwaneg, rhyngwici
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Cerddor enwog o [[Nefyn]] yn [[Llŷn]], [[Gwynedd]] oedd '''John Parry''' ([[1710]]? - [[Hydref]] [[1782]]), a adnabyddid fel '''Y Telynor Dall''' a '''John Parry Ddall''' neu '''Parry Ddall Rhiwabon'''. Fel mae ei lysenw yn awgrymu, roedd yn ddall o'i enedigaeth.
 
Ganed John Parry yn [[Nefyn]] yn 1710 (yn ôl pob tebyg). Roedd yn [[telyn|delynor]] medrus a noddwyd i ddechrau gan y teulu Griffiths o ystad [[Cefn Amwlch]] ym Mryn Cynan, Llŷn. Yn nes ymlaen, daeth yn delynor teuluol i Syr [[Watkin Williams-Wyn]] ym mhlas [[Wynnstay]], ger [[Rhiwabon]], cartref y teulu [[Williams Wyn]] (Wyniaid Wynnstay). Aeth i Lundain yng nghwmni Syr Watkin lle cafodd ei gyflwyno i gylchoedd uchel y ddinas.