Basileios II: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: tr:II. Basileios
Alan012 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 9:
Roedd Basileios yn filwr galluog, a bu'n ymladd llawer yn erbyn yr Arabiaid, oedd yn gwarchae ar [[Aleppo]] ac yn bygwth [[Antioch]]. Enillodd Basileios nifer o fwydrau yn eu herbyn yn [[Syria]] yn 995, gan anrheithio dinasoedd cyn belled a [[Tripoli]] ac ychwanegu'r rhan fwyaf o Syria at yr ymerodraeth.
 
Bu'n ymladd llawer yn erbyn [[Samuil, ymerawdwr Bwlgaria]] hefyd, gan warchae ar Sredets ([[Sofia]]) yn 986. Methodd gipio'r ddinas, a gorchfygwyd ef ym Mrwydr Trayanovi Vrata ar y ffordd yn ôl i Thrace. Collwyd [[Moesia]] i'r Bwlgariaid am gyfnod, ond gallodd Basileios ei hennill yn ôl yn 1001 - 1002. Cipiodd [[Skopje]] yn 1003 a [[Durazzo]] yn 1005. Ar [[29 Gorffennaf]], [[1014]], ennilloddenillodd Basileios fuddugoliaeth fawr dros y Bwlgariaid ym Mrwydr Kleidion. Dywedir iddo gymeryd 15,000 o garcharorion, a dallu 99 o bob cant ohonynt. Ildiodd Bwlgaria yn derfynol yn 1018, ac yn ddiweddarach ildiodd y [[Serbiaid]] hefyd, gan ddod a ffîn yr ymerodraeth at [[Afon Donaw]] am y tro cyntaf mewn pedair canrif. Bu hefyd yn ymladd yn erbyn y [[Khazar]], a chipiodd dde y [[Crimea]] oddi wrthynt.
 
Yn ddiweddarach, bu'n ymladd yn erbyn y [[Persia|Persiaid]], gan ennill [[Armenia]] yn ôl i'r ymerodraeth am y tro cyntaf ers dwuy ganrif. Concrwyd rhan o dde [[yr Eidal]] hefyd, a phan fu Basileios farw ar [[15 Rhagfyr]] [[1025]], roedd ar ganol cynllunio ymgyrch i ad-ennill ynys [[Sicilia]].