Clefri poeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cysylltu ag erthyglau eraill
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Cyffuriau|fetchwikidata=ALL}}
 
Mae'r Clefri poeth, sy'n cael ei adnabod hefyd fel y llwg neu y sgyrfi, yn glefyd sy'n ganlyniad i ddiffyg [[Fitamin C]]. Mae symptomau yn cynnwys gwendid, blinder, a breichiau a choesau poenus. Heb ei drin, gall arwain at leihad yng [[Cell goch y gwaed|nghelloedd coch y gwaed]], [[llid y deintgig]], newidiadau i wallt, a gwaedu o'r croen. Wrth i'r clefyd waethygu, gall amharu ar allu clwyfau i wella, achosi newid ym mhersonoliaeth y claf, ac arwain yn y pen draw at farwolaeth o haint neu waedu.
 
Llinell 6 ⟶ 8:
 
Mae'r clefri poeth yn anghyffredin ar hyn o bryd. Mae i'w weld amlaf yn y byd sy'n datblygu mewn perthynas â diffyg maeth. Ceir adroddiadau bod cyfraddau ymhlith ffoaduriaid rhwng 5% a 45%. Ceir disgrifiadau cynnar o'r clefyd yn hen wlad yr Aifft. Roedd yn cyfyngu ar bellter mordeithiau ar un adeg, ac yn arwain at farwolaeth nifer fawr o deithwyr. Llawfeddyg yn y Llynges Frenhinol, James Lind, oedd y cyntaf i brofi ei fod yn gallu cael ei drin gyda ffrwythau sitrws, a chyhoeddodd ei ddarganfyddiad mewn cylchgrawn yn 1753. Ei arbrofion oedd y rhai cyntaf i'w cynnal mewn dull oedd wedi'i reoli. Aeth deugain mlynedd arall heibio cyn y dechreuodd y Llynges ddosbarthu sudd lemwn yn rheolaidd i osgoi'r clefyd.
 
[[Categori:Clefydau croenol]]
[[Categori:Prosiect Wici-Iechyd]]