Jo Cox: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →Cyfeiriadau: clean up |
B Ardddull a manion sillafu, replaced: yr oedd → roedd (2), Ym mis Hydref → Yn Hydref using AWB |
||
Llinell 48:
Enwebwyd Cox gan y [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] i ymladd sedd Batley and Spen a adawyd yn wag gan Mike Wood yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015|etholiad cyffredinol 2015]]. Dewiswyd fel ymgeisydd ar gyfer y sedd drwy restr fer o ferched yn unig. Sedd ddiogel i Lafur ydy etholaeth Batley and Spen fel arfer, ac enillodd Cox y sedd gyda 43.2% o'r bleidlais, gan gynyddu mwyafrif Llafur i 6,051.
Gwnaeth Cox ei haraith gyntaf yn [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Nhŷ'r Cyffredin]] ar 3 Mehefin 2015, gan ei ddefnyddio i ddathlu amrywiaeth ethnig ei hetholaeth, tra'n tynnu sylw at yr heriau economaidd sy'n wynebu'r gymuned, ac yn annog y llywodraeth i ailfeddwl ei agwedd tuag at adfywio economaidd. Roedd yn un o 36 ASau Llafur i enwebu [[Jeremy Corbyn]] fel ymgeisydd yn etholiad arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn 2015, ond dywedodd ar y pryd ei bod wedi gwneud hynny er mwyn ei roi ar y rhestr ac annog trafodaeth eang. Yn yr etholiad cyntaf pleidleisiodd dros [[Liz Kendall]], a cyhoeddodd ar 6 Mai 2016 ar ôl yr etholiadau lleol
Roedd gwrthdaro [[Syria]] yn un o brif faterion ymgyrchu Cox.
Roedd Cox yn gefnogwr seneddol i Gyfeillion Llafur Palesteina a'r Dwyrain Canol, a galwodd am ddileu gwarchae [[Llain Gaza]]. Gwrthwynebodd hi ymdrechion y llywodraeth i gwtogi'r symudiad dros boicot, sancsiynau a lleihai buddsodiadau. Meddai, "Rwy'n credu mai ymosodiad enbyd ar ryddid democrataidd ydy hyn. Nid yn unig y mae'n iawn i foicotio cwmnïau anfoesegol, ond mae ganddom hawl i wneud hynny."
Llinell 64:
Pedair awr ar ôl y digwyddiad, cyhoeddodd Heddlu Gorllewin Swydd Efrog fod Cox wedi marw yn Ysbyty Cyffredinol Leeds. Hi yr AS cyntaf i gael ei llofruddio yn ei swydd ers marwolaeth y Ceidwadwr [[Ian Gow]] ym 1990, pan laddwyd ef gan fom car a osodwyd gan yr IRA, a hwn oedd yr ymosodiad difrifol cyntaf ar AS ers i [[Stephen Timms]] gael ei drywanu gan Roshonara Choudhry mewn ymgais i'w lofruddio yn 2010. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn Eglwys Sant Pedr, Birstall, y diwrnod canlynol.
Cafodd Thomas Mair, 52 oed, oedd yn byw yn etholaeth Cox, ei arestio mewn cysylltiad â'i marwolaeth yn fuan ar ôl yr ymosodiad. Roedd gan Mair hanes o broblemau seiciatrig a chysylltiadau a'r National Alliance, grŵp neo-Natsïaidd yn UDA, yn ôl adroddiadau. Mewn datganiad a gyhoeddwyd y diwrnod wedi'r ymosodiad, dywedodd Heddlu Gorllewin Swydd Efrog
Cyhoeddodd gŵr Cox, Brendan, ddatganiad yn dilyn ei marwolaeth, yn annog pobl i "ymladd yn erbyn y casineb a laddodd hi". Ymhlith y rhai a dalodd teyrnged i Cox oedd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, a ddisgrifiodd hi fel rhywun "roddodd ei hun i'n annog ni i gwblhau ein haddewidion i gefnogi'r byd sy'n datblygu a chryfhau hawliau dynol", a dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron, ei bod yn "seren ar gyfer ei hetholwyr, seren yn y senedd ac ar draws Tŷ'r Cyffredin cyfan" . Galwodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, ei gŵr i gynnig ei gydymdeimlad, gan nodi bod "y byd yn lle gwell oherwydd ei gwasanaeth anhunanol i eraill".
|