John Josiah Guest: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B Ardddull a manion sillafu, replaced: yr oedd → roedd (2), Yr oedd → Roedd , ym Mhrydain → yng ngwledydd Prydain using AWB
Llinell 20:
 
==Gyrfa==
Ar farwolaeth ei dad ym 1807 etifeddodd John ran ei dad yng Ngwaith Haearn Dowlais gan ddod yn berchennog mwyafrifol y gwaith ym 1815 a'i llwyr berchennog ym 1849. Llwyddodd i gynyddu allbwn y cwmni yn sylweddol o 5 mil tunnell o haearn ym 1806 i 75 mil tunnell ym 1849. O ganol y 1830au i ddiwedd y 1840au roedd gwaith Dowlais ar ei hanterth. Erbyn 1845 roedd yno deunaw ffwrnais (y nifer cyfartalog ar gyfer gwaith haearn oedd tri), gyda phob un yn cynhyrchu dros gant o dunelli bob wythnos. Roedd y safle yn cwmpasu 40 erw a'r gweithlu yn rhifo mwy na saith mil. Cafodd ail waith, ''Gwaith Ifor'' (wedi ei enwi ar ôl ei fab hynaf ei godi ym 1839 ar gost o £ 47,000. Gan fod y rhwydwaith rheilffyrdd yn ehangu trwy'r byd llwyddodd y cwmni i ennill contractau ymyng Mhrydainngwledydd Prydain a thu hwnt, yn arbennig yn yr [[Almaen]], [[Rwsia]], ac [[Unol Daleithiau America]]. Ym 1844, er enghraifft, enillwyd archeb ddigynsail am 50,000 o dunelli o gledrau i Rwsia.
 
Roedd Guest yn flaengar yn ei ddefnydd o'r darganfyddiadau diweddaraf ym meysydd cemeg a pheirianwaith ac yn ymgysylltu â ffigyrau allweddol mewn datblygiad gwyddonol a thechnolegol. Etholwyd ef yn gymrawd o'r Gymdeithas Ddaearegol yn 1818 a'r [[Y Gymdeithas Frenhinol|Gymdeithas Frenhinol]] ym 1830. Ym 1834 daeth yn aelod cyswllt o Sefydliad y Peirianwyr Sifil.
Llinell 27:
 
==Gyrfa Wleidyddol==
Etholwyd Guest yn [[Aelod Seneddol]] Annibynnol dros etholaeth Honington, Dyfnaint ym 1826 a'r addewid o ymddwyn fel ''cyfaill i ryddid crefyddol a sifil''<ref>Trewman’s Exeter Flying Post, Tud 15, 22 Mehefin, 1826</ref> gan gadw at ei addewid; bu'n gwrthwynebu, caethwasiaeth, cyfreithiau gwrth Catholigion a chyfreithiau diffyndollau a oedd yn codi prisiau nwyddau i'r tlodion. Yr oeddRoedd yn frwd o blaid diwygio'r Senedd ac fe fu yn allweddol yn sicrhau bod etholaeth [[Sir Forgannwg (etholaeth seneddol)|Sir Forgannwg]] yn cael aelod ychwanegol a bod [[Bwrdeistref Merthyr Tudful (etholaeth seneddol)|Bwrdeistref Merthyr Tudful]] a [[Dosbarth Abertawe (etholaeth seneddol)|Dosbarth Abertawe]] yn cael cynrychiolaeth Seneddol. Doedd ei frwdfrydedd dros ddiwygio ddim yn boblogaidd yn etholaeth Honiton, sedd dau aelod yn cynrychioli un dref marchnad; yn Etholiad Cyffredinol 1831 syrthiodd o frig y pôl i'r trydydd safle gan golli ei sedd.
 
Ym 1832 safodd fel Chwig / Rhyddfrydwr yn etholaeth newydd Merthyr gan gael ei ddychwelyd yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau 1832 ac 1835. Penderfynodd sefyll dros etholaeth Sir Forgannwg yn etholiad 1837, ond heb lwyddiant. Cyn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] doedd etholiadau ddim yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod ym mhob un etholaeth, ond ar ddiwrnod a benodwyd gan y swyddog canlyniadau ar unrhyw ddydd yn ystod y cyfnod etholiadol; wedi methu cael ei ethol yn y Sir, safodd eto yn etholiad 1837 yn etholaeth Merthyr Tudful fel ymgeisydd Rhyddfrydol, er bod y Rhyddfrydwyr lleol eisoes wedi dewis ymgeisydd, John Bruce. Llwyddodd Guest i ddod i frig y pôl a chadwodd y sedd yn ddiwrthwynebiad hyd ei farwolaeth.<ref>The History of Parliament: the House of Commons 1820-1832, gol. D.R. Fisher, 2009; ''GUEST, Josiah John (1785-1852), of Dowlais House, nr. Merthyr Tydvil, Glam.'' [http://www.historyofparliamentonline.org/volume/1820-1832/member/guest-josiah-1785-1852] adalwyd 1 Medi, 2015</ref>
Llinell 112:
 
==Gwrthryfel y gweithwyr ==
Yn ystod [[Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful]], yr oeddroedd Guest, yn amlwg, ar ochr y meistri a ''chyfraith a threfn''; ond mae'n debyg ei fod yn ychydig mwy cymedrol na rhai o'i gyd feistri megis [[William Crawshay II]] a oedd am ddangos ''y gwrthwynebiad mwyaf pendant i'r gweithredoedd anghyfreithiol'' a [[Crawshay Bailey]] a oedd yn addo ''mentro fy mywyd yn hytrach na cholli fy eiddo'' ac yn addo defnyddio holl rym y wlad ar y gwrthryfelwyr pe na baent yn ildio a dychwelyd i'w llefydd gwaith; yr oeddroedd Guest yn argymell eu bod yn dychwelyd i'w cartrefi ac yn ddwys ystyried ffurf amgenach o fynegi eu hanghydfod. Yn ôl rhai adroddiadau o'r wasg ar ddiwrnod olaf y terfysg fe arbedwyd cyflafan pan safodd Guest rhwng y milwyr a'r protestwyr gan sicrhau nad oedd modd i'r milwyr saethu heb ei ladd ef a gan sicrhau amddiffyn hawliau'r gweithwyr pe baent yn ymwasgaru.<ref>The Cardiff and Merthyr Guardian Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette, 4 Rhagfyr 1852, ''The Death of Sir Josiah John Guest'' [http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3090410/3090413/29/] adalwyd 1 Medi, 2015</ref>
 
Mae'n debyg mae creu arwr allan o aelod o'r sefydliad yw'r fath adroddiadau, gwrth arwr sefydliadol i [[Dic Penderyn]], a bod y wasg Ryddfrydol am sicrhau bod y sefydliad ddim yn gweld Rhyddfrydiaeth fel gormod o fygythiad i'r sefydliad; ond yn ddi-os fe ddefnyddiodd Guest yr anghydfod ym Merthyr fel dadl dros sicrhau sedd seneddol i Ferthyr<ref>John Davies;''Hanes Cymru'' tud 369 ; Penguin Press, Llundain 1990; ISBN 0-7139-9011-2</ref>