John Tudor Jones (John Eilian): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen wicidata
B Ardddull a manion sillafu, replaced: yr oedd → roedd (6) using AWB
Llinell 23:
Ym [[1932]] prynodd Hughes a'i fab yr hawl ar enw [[Y Cymro]] fel teitl ar bapur newydd. Cyhoeddwyd papur o'r enw’r Cymro gan gwmni Evans yn [[Dolgellau|Nolgellau]] yn y 1920au ond doedd Hughes a'i Fab dim am barhau â'r hen gyhoeddiad - dim ond cael yr hawl i ddefnyddio'r enw ar gyfer papur newyddion cenedlaethol newydd spon. Pan gyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o'r papur John Eilian oedd ei olygydd.
 
Gan nad oedd cylchrediad Y Cymro cystal ag yr oeddroedd ei gyhoeddwyr wedi'i ddisgwyl, penderfynodd [[Rowland Thomas]], perchennog Hughes a'i Fab uno'r Cymro efo'r Ford Gron a oedd a chylchrediad iachach ac achosodd hyn anghydfod rhwng Thomas a Jones ac fe ymadawodd Jones a'r cwmni ym 1935.
 
Wedi ymadael a'r Cymro a'r Ford gron aeth Jones i [[Colombo]] yn olygydd [[The Times of Ceylon]] ac i roi cymorth i sefydlu gorsaf radio cenedlaethol cyntaf y wlad. Wedi cyfnod yn [[Ceylon]] aethai i'r [[Dwyrain Canol]] lle fu'n olygydd i'r [[Macedonian Times]] a'r [[Iraq Times]].
Llinell 38:
Yn ystod ei gyfnod ym [[Prifysgol Aberystwyth|Mhrifysgol Aberystwyth]] daeth John Eilian yn gyfaill â [[Edward Prosser Rhys|Prosser Rhys]] golygydd [[Y Faner]] a oedd yn cael ei chyhoeddi yn [[Aberystwyth]] ar y pryd a chyhoeddodd y ddau gyfrol o farddoniaeth ar y cyd, ''Gwaed Ifanc'', a oedd yn cael ei hystyried yn llyfr gwefreiddiol a chwyldroadol, ar y pryd.<ref>Y Bywgraffiadur ar lein ''Rhys, Prosser'' http://yba.llgc.org.uk/cy/c2-RHYS-PRO-1901.html adalwyd 2 Rhag 2013</ref>
 
Tra' n golygu'r Cymro a'r Ford Gron yr oeddroedd Jones yn gyfrifol am olygu cyfres o lyfrau bach o glasuron barddol a llenyddol Cymru i gwmni Hughes a'i Fab o'r enw Llyfrau'r Ford Gron yn ogystal â golygu'r gyfres fe bu'n awdur rai o'r cyfrolau, er enghraifft y gyfrol am Hanes a Gwaith [[Owen Morgan Edwards|Syr O M Edwards]]. Cyfieithodd bedair stori i blant i'r Gymraeg ar gyfer cwmni Harrap yn 1953 - Robin Hood, Y Brenin Arthur, Ali Baba a Siân D'Arc.<ref>http://darganfod.llgc.org.uk/default.ashx?q=John+Tudor+Jones adalwyd Rhag 2 2013</ref>
 
Cyfieithodd a chyfansoddodd dros 80 o gerddi i'w gosod i gerddoriaeth a gyhoeddwyd gan gwmni [[Cwmni Cyhoeddi Gwynn|W S Gwynn Williams]] gan gynnwys gweithiau clasurol megis oratorio [[George Frideric Handel|Handel]] ''Judas Maccabaeus'', caneuon gwerin megis ''Hey ho, to the greenwood'' [[William Byrd]] ac ychwanegu penillion i hen ganeuon Gymraeg megis ''Bwthyn fy Nain''.
Llinell 46:
==Gwleidyddiaeth==
 
Yn ei ieuenctid yr oeddroedd Jones yn Sosialydd pybyr ond wedi ei gyfnod yn gweithio i'r [[Daily Mail]] drodd ei gefnogaeth i'r asgell dde, eithafol ar adegau. Er ei fod yn ''Gymro da'' ar sawl ystyriaeth yr oeddroedd yn honni nad oedd Cymru'n wlad, dim ond yn olion hen daleithiau Prydeinig anghofiedig. Ddalai mai [[Lerpwl]] oedd prifddinas [[Gogledd Cymru]] a bod gan Gogledd Orllewin Cymru llawer mwy yn gyffredin a Gogledd Orllewin Lloegr nag unrhyw le i'r de o Bont ar Ddyfi. Roedd yn casáu [[Cymdeithas yr Iaith]] ag unrhyw ymgyrch wleidyddol i gefnogi'r Gymraeg a'r genedl Gymreig.
 
Bu rhai o'i gyfeillion megis Percy Ogwen Jones, tad yr Athro [[Bedwyr Lewis Jones]] yn ceisio amddiffyn ei agwedd trwy egluro mae ceisio creu adwaith ydoedd er mwyn enyn ymateb yn ei bapurau, ond mae hynny'n annhebygol iawn, gan iddo wrthod cyhoeddi unrhyw lythyr nac unrhyw farn yr oeddroedd yn eu hystyried yn ''annheyrngar'' am [[Arwisgiad Tywysog Cymru|Arwisgo'r]] Tywysog [[Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru|Charles]] ym mhapurau'r Herald.<ref>http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/tuesday-7-july-2009-2092783 adalwyd Rhag 2 2013</ref>
 
Oherwydd ei wrth Gymreictod yr oeddroedd yn cael ei wawdio'n aml yng nghylchgrawn [[Lol]] a chyfrolau'r ''bardd'' [[Derec Tomos]] ac fe fu hynny'n gryn bleser iddo.
 
Safodd fel ymgeisydd tair gwaith yn etholaeth [[Ynys Môn (etholaeth seneddol)|Ynys Môn]] ar ran y [[Y Blaid Geidwadol (DU)|Blaid Geidwadol]] yn Etholiadau Cyffredinol 1964, 1966 a 1970 gan gipio'r ail safle ar bob achlysur.<ref>James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8</ref>