Michael Collins: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 7:
Gadawodd Colins yr ysgol yn bymtheg oed ac aeth i [[Llundain|Lundain]] i chwilio am waith. Yno ymunodd a'r [[Brawdoliaeth Weriniaethol Wyddelig|Frawdoliaeth Weriniaethol Wyddelig]] (IRB), cymdeithas oedd yn ymladd am annibyniaeth Iwerddon. Cymerodd ran weddol amlwg yng [[Gwrthryfel y Pasg|Ngwrthryfel y Pasg]] yn [[Dulyn|Nulyn]] yn [[1916]], ond gan na chafodd ei adnabod fel un o'r arweinwyr, ni chafodd ei ddienyddio fel y prif arweinwyr. Cafodd ei garcharu yng ngwersyll carchar [[Fron-goch]] ger [[Y Bala]] hyd mis Rhagfyr 1916.
Pan
Erbyn 1922 yr oedd y llywodraeth Brydeinig yn barod i drafod telerau heddwch, ac aeth Collins gyda nifer o arweinwyr eraill i Lundain i negodi gyda llywodraeth [[David Lloyd George]]. Cynigiwyd iddynt weriniaeth annibynnol, ar yr amod fod chwech sir yng ngogledd yr ynys yn parhau dan lywodraeth Brydeinig fel [[Gogledd Iwerddon]]. Cytunodd Collins a'r lleill, er ei fod yn gwybod y byddai hyn yn annerbyniol gan rai o'r rhai oedd wedi bod yn cyd-ymladd ag ef. Aeth yn [[rhyfel cartref]] yn erbyn y rhai oedd yn gwrthod derbyn y cytundeb, yn cynnwys [[Éamon de Valera]]. Gerllaw Corc ar 22 Awst,1922 yr oedd Collins yn teithio mewn modur pan ymosodwyd arno gan fintai oedd yn gwrthwynebu'r cytundeb. Gallasant fod wedi gyrru ymlaen allan o berygl, ond mynnodd Collins aros a chymeryd rhan yn yr ymladd ei hun. Tarawyd ef gan fwled a'i ladd yn y fan.
|