Geisha: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 34:
 
Yn aml, cyflogir geisha i fynychu partïon, gan amlaf mewn tai tê neu mewn tai bwyta traddodiadol Siapaneaidd (ryōtei). Mesurir eu hamser yn ôl yr amser mae'n cymryd i ddarn o arogldarth i losgi. Gelwir hyn yn senkōdai (線香代, "tâl arogldarth") neu gyokudai (玉代 "tâl gem"). Yn Kyoto defnyddir y term "ohana" (お花)a "hanadai" (花代), sy'n meddwl "tâl blodyn". Mae'r cwsmer yn gwneud trefniadau trwy swyddfa undeb y geisha (検番 kenban), sy'n cadw trefn ar ddigwyddiadur y geisha gan wneud apwyntiadau ar ei chyfer ar gyfer diddanu a hyfforddiant.
 
 
== Geisha a Phuteindra ==
 
Mae ansicrwydd yn parhau, yn Siapan ei hun hyd yn oed, am union natur proffesiwn y geisha. Mewn diwylliant poblogaidd gorllewinol, caiff geisha eu darlunio fel puteiniaid. Fodd bynnag, nid yw geisha yn cael rhyw gyda chwsmer am arian. Eu pwrpas yw i ddiddanu'u cwsmer, trwy adrodd cerddi, chwarae offerynnau cerddorol neu drwy sgwrsio'n ysgafn. Hwyrach y gallai gwaith y geisha gynnwys fflyrtio â'r dynion; fodd bynnag, gŵyr y dynion i beidio a disgwyl unrhywbeth yn fwy na hynny. Mae'n ffordd gymdeithasol sy'n unigrwy i Siapan lle caiff y dynion eu diddanu gan y rhith o'r hyn na allai fyth fod.
 
Mae'r geisha wedi cael eu cymysgu gyda phuteiniaid llys o gyfnod Edo a gawsai eu hadnabod fel oiran. Fel y geisha, gwsigai'r geisha steil gwallt unigryw a cholur gwyn, ond arferai'r oiran glymu eu kimono yn y tu blaen. Nid oedd hyn er mwyn gallu diosg eu gwisg yn gyflym, fel y tybia nifer o bobl, ond am mai dyna oedd yr arfer i wragedd priod y cyfnod yn ôl yr anthropolegwraig Liza Dalby.