Geisha: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
llun, dolenni
Llinell 3:
 
== Termau ==
Enw cyffredin yw "Geisha". Fel pob enw SiapaneaiddSiapaneg, nid oes gwahaniaeth penodol rhwng y term unigol a'r lluosog. Mae'r gair yn cynnwys dau air [[kanji]] sef ''gei'' sy'n golygu "celfyddyd" a ''sha'' sy'n meddwl "person" neu "gwneuthurwr". Y cyfieithiad mwyaf uniongyrchol i'r Gymraeg o'r term "geisha" fyddai "artist" neu "artist sy'n perfformio".
 
Term arall a ddefnyddir yn Siapan yw geiko, a ddaw o air yn nhafodiaith [[Kyoto]]. Gelwir geisha sydd wedi cwblhau eu hyfforddiant yn geiko. Defnyddir y term hwn hefyd yn yr ardal er mwyn gwahaniaethu rhwng geisha sydd wedi'i hyfforddi yn y celfyddydau traddodiadol a phuteiniaid sydd wedi "baeddu" enw a gwisg y geisha. Mae puteiniaid yn gwisgo cwlwm ei sash, neu'i [[obi]], ar flaen eu [[kimono]] tra bod y geisha yn gwisgo'u obi ar y cefn. Gan amlaf roedd gan geisha gwirioneddol gynorthwyydd i'w helpu gyda'r broses anodd o wisgo; mae eu dillad yn cynnwys sawl haen o kimono a dillad isaf, ac mae'r obi yn llawer mwy na darn syml o ddefnydd. Gall gymryd dros awr i geisha wisgo, hyd yn oed gyda help cynorthwyydd. Fodd bynnag, byddai'n rhaid i buteiniaid ddiosg eu obi sawl gwaith y dydd ac felly roedd eu gwisg yn llawer llai cymhleth ac yn clymu yn y tu blaen er mwyn gallu newid yn gyflym.
 
== CamauCamrau Hyfforddiant ==
 
[[Image:Geisha-fullheight.jpg|200px|bawd|Dwy ddynes wedi'u gwisgo fel ''maiko'', Kyoto]]
== Camau Hyfforddiant ==
 
Yn draddodiadol, mae'r geisha yn dechreu eu hyfforddiant pan maent yn ifanc iawn. Er bod rhai merched wedi cael eu gwerthu i dai geisha ("okiya") pan yn blant, nid oedd hyn yn gyffredin mewn ardaloedd parchus. Yn aml byddai merched i geisha yn cael eu magu fel geisha eu hunain, fel arfer fel yr olynydd ("atotori" sy'n golygu etifedd) neu rôl-merch ("musume-bun") i'r okiya.
 
Llinell 19 ⟶ 18:
 
Ar ôl cyfnod mor fyr a chwech mis (yn Tokyo) neu gyhyd a pum mlynedd (yn Kyoto), dyrchefir y maiko i statws geisha llawn ac mae'n codi pris llawn am ei hamser. Mae geisha yn parhau i weithio felly tan eu bod yn ymddeol.
 
 
== Geisha Modern ==
 
Mae geisha modern yn parhau i fyw mewn tai geisha traddodiadol a elwir okiya mewn ardaloedd o'r enw hanamachi ("trefi blodau"), yn enwedig yn ystod eu prentisiaeth. Mae nifer o geisha profiadol yn ddigon llwyddiannus i fedru dewis byw yn annibynnol. Gelwir y byd gosgeiddig, uchel-ael mae'r geisha yn rhan ohono yn karyūkai (花柳界 "byd y blodyn a'r helygen").
 
Y dyddiau yma, mae gwragedd ifanc sy'n dymuno bod yn geisha yn dechrau eu hyfforddiant wedi iddynt gwblhau ysgol iau neu hyd yn oed ysgol hŷn neu goleg, gyda nifer ohonynt yn dechrau eu gyrfa pan yn oedolion. Bydd geisha yn astudio offerynnau traddodiadol fel y [[shamisen]], [[shakuhachi]] (y ffliwt bambw), a'r drymiau, yn ogystal â chaneuon traddodiadol, [[dawns]] Siapaneaidd traddodiadoldraddodiadol, [[Seremoni te|seremonïau tê]], [[llenyddiaeth]] a [[barddoniaeth]]. Trwy wylio geisha eraill a gyda chymorth perchennog y tŷ geisha, bydd y geisha o dan hyfforddiant hefyd yn dysgu'r traddodiadau cymhleth eraill sy'n ymwneud â dewis a gwisgo kimono a delio â chwsmeriaid.
 
Ystyrir Kyoto fel yr ardal lle mae traddodiad y geisha ar ei gryfa y dyddiau yma, gan gynnwys Gion Kobu. Gelwir y geisha yn yr ardal yma'n geiko. Mae hanamachi Tokyo yn Shimbashi, Asakusa a Kagurazaka hefyd yn adnabyddus.
Llinell 33 ⟶ 30:
Mae economi araf, diffyg diddordeb yn y celfyddydau traddodiadol, natur egsliwsif byd y blodyn a'r helygen a'r gost o gael eich diddanu gan geisha i gyd wedi cyfrannu at ddirywiad y traddodiad.
 
Yn aml, cyflogir geisha i fynychu partïon, gan amlaf mewn tai tê neu mewn tai bwyta traddodiadol Siapaneaidd (ryōtei). Mesurir eu hamser yn ôl yr amser mae'n cymryd i ddarn o [[arogldarth]] i losgi. Gelwir hyn yn senkōdai (線香代, "tâl arogldarth") neu gyokudai (玉代 "tâl gem"). Yn Kyoto defnyddir y term "ohana" (お花)a "hanadai" (花代), sy'n meddwl "tâl blodyn". Mae'r cwsmer yn gwneud trefniadau trwy swyddfa undeb y geisha (検番 kenban), sy'n cadw trefn ar ddigwyddiadur y geisha gan wneud apwyntiadau ar ei chyfer ar gyfer diddanu a hyfforddiant.
 
 
== Geisha a Phuteindra ==
 
Mae ansicrwydd yn parhau, yn Siapan ei hun hyd yn oed, am union natur proffesiwn y geisha. Mewn diwylliant poblogaidd gorllewinol, caiff geisha eu darlunio fel puteiniaid. Fodd bynnag, nid yw geisha yn cael rhyw gyda chwsmer am arian. Eu pwrpas yw i ddiddanu'u cwsmer, trwy adrodd cerddi, chwarae offerynnau cerddorol neu drwy sgwrsio'n ysgafn. Hwyrach y gallai gwaith y geisha gynnwys fflyrtio â'r dynion; fodd bynnag, gŵyr y dynion i beidio a disgwyl unrhywbeth yn fwy na hynny. Mae'n ffordd gymdeithasol sy'n unigrwy i Siapan lle caiff y dynion eu diddanu gan y rhith o'r hyn na allai fyth fod.