Geisha: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun, dolenni
→‎Geisha Modern: llun arall
Llinell 22:
Mae geisha modern yn parhau i fyw mewn tai geisha traddodiadol a elwir okiya mewn ardaloedd o'r enw hanamachi ("trefi blodau"), yn enwedig yn ystod eu prentisiaeth. Mae nifer o geisha profiadol yn ddigon llwyddiannus i fedru dewis byw yn annibynnol. Gelwir y byd gosgeiddig, uchel-ael mae'r geisha yn rhan ohono yn karyūkai (花柳界 "byd y blodyn a'r helygen").
 
[[Image:Maiko in Gion.jpg|230px|bawd|chwith|Y ''maiko'' Mamechiho yn Kyoto. Mae gwisg ei gwallt yn dangos ei bod o ardal geisha Gion-kobu]]
Y dyddiau yma, mae gwragedd ifanc sy'n dymuno bod yn geisha yn dechrau eu hyfforddiant wedi iddynt gwblhau ysgol iau neu hyd yn oed ysgol hŷn neu goleg, gyda nifer ohonynt yn dechrau eu gyrfa pan yn oedolion. Bydd geisha yn astudio offerynnau traddodiadol fel y [[shamisen]], [[shakuhachi]] (y ffliwt bambw), a'r drymiau, yn ogystal â chaneuon traddodiadol, [[dawns]] Siapaneaidd draddodiadol, [[Seremoni te|seremonïau tê]], [[llenyddiaeth]] a [[barddoniaeth]]. Trwy wylio geisha eraill a gyda chymorth perchennog y tŷ geisha, bydd y geisha o dan hyfforddiant hefyd yn dysgu'r traddodiadau cymhleth eraill sy'n ymwneud â dewis a gwisgo kimono a delio â chwsmeriaid.