Hanes Iwerddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
rhaniadau
Llinell 2:
 
Mae '''Hanes Iwerddon''' yn dechrau gyda dyfodiad pobloedd cynnar pan nad oedd [[Iwerddon]] yn ynys, gan fod tir yn ei chysylltu ag Ynys Prydain ac ag [[Ewrop]]. Mae'r olion cyntaf sydd wedi eu darganfod hyd yn hyn yn dyddio i tua 8000 CC.. Mae llawer mwy o olion o'r cyfnod [[Neolithig]], gyda nifer o feddau neu gromlechi enwog o'r cyfnod yma, megis [[Newgrange]].
 
==Y cyfnod cynnar==
 
Credir i'r cenhadon Cristionogol cyntaf gyrraedd yr ynys tua dechrau neu ganol y [[5ed ganrif]], gyda [[Sant Padrig]] yn arbennig o amlwg. Erbyn tua [[600]] roedd yr hen grefydd wedi diflannu i bob pwrpas. O tua [[800]] bu llawer o ymosodiadau gan y [[Llychlynwyr]], a bu difrod fawr ar y mynachlogydd o ganlyniad. Ymsefydlodd rhai o'r Llychlynwyr ar arfordir dwyreiniol Iwerddon a thyfodd [[Dulyn]] yn ganolfan bwysig yn y byd Llychlynaidd. Roedd yna gysylltiadau cryf rhwng "Gwŷr Dulyn" a [[Teyrnas Gwynedd|brenhinoedd Gwynedd]] erbyn yr [[Oesoedd Canol]]. Ganwyd [[Gruffudd ap Cynan]] yn Nulyn a'i fagu yn [[Sord Cholmcille]] (Swords) gerllaw. Yr oedd yn fab i [[Cynan ap Iago]] a [[Ragnell]] ferch [[Olaf Arnaid]], brenin Daniaid Dulyn, ac yn ystod ei ymdrechion i ennill rheolaeth dros Wynedd cafodd Gruffudd lawer o gymorth o Iwerddon.
Llinell 7 ⟶ 9:
Roedd Iwerddon wedi ei rhannu yn nifer o deyrnasoedd annibynnol; a symbolaidd oedd swyddogaeth [[Uchel Frenin Iwerddon]] yn bennaf. Ceisiodd [[Brian Boru]] (''Brian mac Cennétig'') newid hyn, a gwneud ei hun yn wir reolwr Iwerddon. Ymladdwyd [[Brwydr Clontarf]] ar [[Dydd Gwener y Groglith|Ddydd Gwener y Groglith]] ([[23 Ebrill]]), [[1014]], rhwng Brian Boru a byddin Brenin [[Leinster]], [[Máel Mórda mac Murchada]], oedd yn cynnwys llawer o Lychlynwyr [[Dulyn]] dan arweiniad cefnder Máel Mórda , [[Sigtrygg Farf Sidan]] (un o hynafiaid Gruffudd ap Cynan). Bu byddin Brian Boru yn fuddugol, ond lladdwyd ef ei hun gan nifer fychan o Lychlynwyr a ddaeth ar draws ei babell yn ddamweiniol wrth ffoi o faes y gad. O ganlyniad, ymrannodd Iwerddon yn nifer o deyrnasoedd annibynnol eto.
 
==O'r goresgyniad Normanaidd hyd y Ddeddf Uno==
Yn [[1166]], gyrrwyd [[Diarmuid Mac Murchadha]], brenin [[Leinster]], o'i deyrnas, a gofynnodd am gynorth [[Harri II, brenin Lloegr]] i'w hadfeddiannu. Yn [[1169]] ymosodwyd ar yr ynys gan arglwyddi [[Normaniaid|Normanaidd]], llawer ohonynt o arglwyddiaethau Normanaidd [[Cymru]], megis eu harweinydd [[Richard Fitz Gilbert de Clare, 2il Iarll Penfro|Richard de Clare, 2il Iarll Penfro]], a elwid yn ''Strongbow''. Roedd y rhain yn ddeiliaid y goron Seisnig, ond dim ond yn raddol y daeth brenhinoedd Lloegr i lwyr reoli Iwerddon. Am ganrifoedd dim ond [[Y Rhanbarth Seisnig]] yr oeddynt yn ei reoli, gyda ffiniau hwn yn amrywio yn ôl llwyddiant milwrol y ddwy ochr. Bu cyfres o ymgyrchoedd milwrol rhwng 1534 a 1691, yn cynnwys ymgyrch gan [[Oliver Cromwell]] yn 1649–50 pan laddwyd miloedd o Wyddelod. Yn yr un cyfnod trawsblannwyd miloedd o ymfudwyr o Loegr a'r Alban i Iwerddon.
 
Yn [[1166]], gyrrwyd [[Diarmuid Mac Murchadha]], brenin [[Leinster]], o'i deyrnas, a gofynnodd am gynorth [[Harri II, brenin Lloegr]] i'w hadfeddiannu. Yn [[1169]] ymosodwyd ar yr ynys gan arglwyddi [[Normaniaid|Normanaidd]], llawer ohonynt o arglwyddiaethau Normanaidd [[Cymru]], megis eu harweinydd [[Richard Fitz Gilbert de Clare, 2il Iarll Penfro|Richard de Clare, 2il Iarll Penfro]], a elwid yn ''Strongbow''. Roedd y rhain yn ddeiliaid y goron Seisnig, ond dim ond yn raddol y daeth brenhinoedd Lloegr i lwyr reoli Iwerddon. Am ganrifoedd dim ond [[Y Rhanbarth Seisnig]] yr oeddynt yn ei reoli, gyda ffiniau hwn yn amrywio yn ôl llwyddiant milwrol y ddwy ochr. Bu cyfres o ymgyrchoedd milwrol rhwng 1534 a 1691, yn cynnwys ymgyrch gan [[Oliver Cromwell]] yn 1649–50 pan laddwyd miloedd o Wyddelod. Yn yr un cyfnod trawsblannwyd miloedd o ymfudwyr o Loegr a'r Alban i Iwerddon. Yn y cyfnod yma roedd gan Iwerddon ei senedd ei hun, er nad oedd gan y mwyafrif o'r brodorion, oedd yn [[Eglwys Gatholig|Gatholigion]], unrhyw ran mewn llywodraeth. Bu [[Gwrthryfel Gwyddelig 1798|gwrthryfel yn 1798]] gyda rhywfaint o gymorth o Ffrainc, ond cafodd ei orchfygu a lladdwyd miloedd lawer.
Yn y cyfnod yma roedd gan Iwerddon ei senedd ei hun, er nad oedd gan y mwyafrif o'r brodorion, oedd yn [[Eglwys Gatholig|Gatholigion]], unrhyw ran mewn llywodraeth. Bu [[Gwrthryfel Gwyddelig 1798|gwrthryfel yn 1798]] gyda rhywfaint o gymorth o Ffrainc, ond cafodd ei orchfygu a lladdwyd miloedd lawer. Yn [[1800]], pasiwyd [[Deddf Uno 1800]], yn weithredol o [[1 Ionawr]] [[1801]], oedd yn gwneud i ffwrdd a senedd Iwerddon ac ymgorffori'r ynys yn y [[Deyrnas Unedig]]. Yn 1823, dechreuodd cyfreithiwr Catholig, [[Daniel O'Connell]], ymgyrch i sicrhau'r bleidlaid i Gatholigion, a llwyddwyd i sicrhau hyn yn 1829. Yn y cyfnod 1845-1849 effeithiwyd ar yr ynys gan "[[Newyn Mawr Iwerddon|Y Newyn Mawr]]" ([[Gwyddeleg]]: ''An Gorta Mór''). Credir i tua miliwn o bobl farw o newyn a gorfodwyd i nifer llawer mwy ymfudo o Iwerddon i geisio bywoliaeth. Lleihaodd poblogaeth Iwerddon o 8 miliwn cyn y newyn i 4.4 miliwn yn [[1911]]. Yn rhannol oherwydd hyn, ac hefyd oherwydd effaith ysgolion Saesneg eu hiaith, dechreuodd y ganran o'r boblogaeth a fedrai'r iaith Wyddeleg leihau, a diflannodd yn hollol o rai ardaloedd.
 
==O'r Ddeddf Uno hyd y Rhyfel Byd Cyntaf==
 
Yn y cyfnod yma roedd gan Iwerddon ei senedd ei hun, er nad oedd gan y mwyafrif o'r brodorion, oedd yn [[Eglwys Gatholig|Gatholigion]], unrhyw ran mewn llywodraeth. Bu [[Gwrthryfel Gwyddelig 1798|gwrthryfel yn 1798]] gyda rhywfaint o gymorth o Ffrainc, ond cafodd ei orchfygu a lladdwyd miloedd lawer. Yn [[1800]], pasiwyd [[Deddf Uno 1800]], yn weithredol o [[1 Ionawr]] [[1801]], oedd yn gwneud i ffwrdd a senedd Iwerddon ac ymgorffori'r ynys yn y [[Deyrnas Unedig]]. Yn 1823, dechreuodd cyfreithiwr Catholig, [[Daniel O'Connell]], ymgyrch i sicrhau'r bleidlaid i Gatholigion, a llwyddwyd i sicrhau hyn yn 1829. Yn y cyfnod 1845-1849 effeithiwyd ar yr ynys gan "[[Newyn Mawr Iwerddon|Y Newyn Mawr]]" ([[Gwyddeleg]]: ''An Gorta Mór''). Credir i tua miliwn o bobl farw o newyn a gorfodwyd i nifer llawer mwy ymfudo o Iwerddon i geisio bywoliaeth. Lleihaodd poblogaeth Iwerddon o 8 miliwn cyn y newyn i 4.4 miliwn yn [[1911]]. Yn rhannol oherwydd hyn, ac hefyd oherwydd effaith ysgolion Saesneg eu hiaith, dechreuodd y ganran o'r boblogaeth a fedrai'r iaith Wyddeleg leihau, a diflannodd yn hollol o rai ardaloedd.
 
[[Image:1916proc.jpg|chwith|thumb|Datganiad Annibyniaeth Iwerddon, a gyhoeddwyd gan arweinwyr Gwrthryfel y Pasg]]
 
Parhaodd cenedlaetholdeb yn gryf, a bu nifer o wrthryfeloedd yn ystod hanner cyntaf y [[19eg ganrif]]. Bu hefyd ymgyrchoedd am hunanlywodraeth trwy ddulliau seneddol, ac yn y 1870au daeth hyn yn bwnc llosg trwy ymdrechion [[Charles Stewart Parnell]]. Cyflwynodd y prif weinidog Prydeinig [[William Ewart Gladstone]] ddau fesur i roi hunanlywodraeth i Iwerddon yn 1886 a 1893, ond gorchfygwyd hwy yn Nhy'r Cyffredin. Yn [[1910]] roedd y [[Plaid Seneddol Wyddelig|Blaid Seneddol Wyddelig]] dan [[John Redmond]] mewn sefyllfa gref yn Nhy'r Cyffredin, gyda'r Rhyddfrydwyr yn dibynnu ar eu cefnogaeth i barhau mewn grym. Yn 1912 cyflwynwyd mesur arall i roi hunanlywodraeth i Iwerddon o fewn y Deyrnas Gyfunol, ond gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan y Protestaniaid yn y gogledd-ddwyrain. Rhoddodd dechreuad y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] yn [[1914]] derfyn ar y mesur am y tro.
 
==Y frwydr am annibyniaeth a rhannu'r ynys==
 
Yn [[1916]] bu gwrthryfel arall, [[Gwrthryfel y Pasg]], gydag ymladd ffyrnig yn ninas [[Dulyn]] dros wythnos y [[Pasg]]. Gorchfygwyd y gwrthryfel gan y fyddin Brydeinig a dienyddiwyd nifer o'r arweinwyr, yn cynnwys [[Padraig Pearse]] a [[James Connolly]]. Fodd bynnag, trodd hyn lawer o boblogaeth Iwerddon o blaid annibyniaeth lwyr. Yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918|Ethloliad Cyffredinol 1918]], collodd y Blaid Seneddol Wyddelig, oedd yn ceisio hunanlywodraeth, bron y cyfan o'u seddau yn Iwerddon i [[Sinn Féin]], oedd yn hawlio annibyniaeth lwyr. Roedd llawer o'r rhai a gymerodd ran yn y gwrthryfel ymysg y rhai a sefydlodd y [[Dáil Cyntaf]] yn [[1919]], yn eu plith [[Éamon de Valera]] a [[Michael Collins]]. Datblygodd [[Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon]] rhwng [[Byddin Weriniaethol Iwerddon]] (yr I.R.A) a'r fyddin Brydeinig a'i hunedau cynorthwyol megis y "Black and Tans". Yn [[1922]] arwyddwyd cytundeb rhwng yr arweinwyr Gwyddelig, [[Arthur Griffith]] a Michael Collins, a'r llywodraeth Brydeinig dan [[David Lloyd George]]. Roedd y cytundeb yma yn rhoi annibyniaeth i 26 o siroedd Iwerddon, gan greu [[Gweriniaeth Iwerddon]], ond gyda chwech sir yn y gogledd-ddwyrain, lle roedd y mwyafrif o'r boblogaeth yn Brotestaniaid, yn parhau yn rhan o'r Deyrnas Unedig.