Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hanes Iwerddon"

Ychwanegwyd 547 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
(rhaniadau)
==O'r goresgyniad Normanaidd hyd y Ddeddf Uno==
 
Yn [[1166]], gyrrwyd [[Diarmuid Mac Murchadha]], brenin [[Leinster]], o'i deyrnas, a gofynnodd am gynorth [[Harri II, brenin Lloegr]] i'w hadfeddiannu. Yn [[1169]] ymosodwyd ar yr ynys gan arglwyddi [[Normaniaid|Normanaidd]], llawer ohonynt o arglwyddiaethau Normanaidd [[Cymru]], megis eu harweinydd [[Richard Fitz Gilbert de Clare, 2il Iarll Penfro|Richard de Clare, 2il Iarll Penfro]], a elwid yn ''Strongbow''. Roedd y rhain yn ddeiliaid y goron Seisnig, ond dim ond yn raddol y daeth brenhinoedd Lloegr i lwyr reoli Iwerddon. Am ganrifoedd dim ond [[Y Rhanbarth Seisnig]] yr oeddynt yn ei reoli, gyda ffiniau hwn yn amrywio yn ôl llwyddiant milwrol y ddwy ochr. Bu cyfres o ymgyrchoedd milwrol rhwng 1534 a 1691, yn cynnwys ymgyrch gan [[Oliver Cromwell]] yn 1649–50 pan laddwyd miloedd o Wyddelod. Yn yr un cyfnod trawsblannwyd miloedd o ymfudwyr o Loegr a'r Alban i Iwerddon. Yn y cyfnod yma roedd gan Iwerddon ei senedd ei hun, er nad oedd gan y mwyafrif o'r brodorion, oedd yn [[Eglwys Gatholig|Gatholigion]], unrhyw ran mewn llywodraeth. Bu [[Gwrthryfel Gwyddelig 1798|gwrthryfel yn 1798]] gyda rhywfaint o gymorth o Ffrainc, ond cafodd ei orchfygu a lladdwyd miloedd lawer.
 
Bu cyfres o ymgyrchoedd milwrol rhwng 1534 a 1691, yn cynnwys ymgyrch gan [[Oliver Cromwell]] yn 1649–50 pan laddwyd miloedd o Wyddelod. Yn yr un cyfnod trawsblannwyd miloedd o ymfudwyr o Loegr a'r Alban i Iwerddon. Ymladdwyd [[Brwydr y Boyne]] ar [[1 Gorffennaf]], [[1690]], ar lan [[Afon Boyne]] i'r gogledd o [[Dulyn|Ddulyn]]. Brwydr rhwng dau frenin a hawliai goron [[Lloegr]] oedd hi. Gorchfygodd [[Wiliam III/II o Loegr a'r Alban]] y cyn-frenin [[Iago II/VII o Loegr a'r Alban|Iago II]]. Roedd yn drobwynt yn hanes Iwerddon am fod Wiliam yn [[Protestaniaeth|Brotestant]] ac yn cael ei gefnogi gan ymsefydlwyr Protestannaidd y [[Gogledd Iwerddon|gogledd]]. Canlyniad hir-dymor y frwydr oedd Goruchafiaeth y Protestaniaid a darostwng y [[Eglwys Gatholig|Catholigion]] brodorol. Yn y cyfnod yma roedd gan Iwerddon ei senedd ei hun, er nad oedd gan y mwyafrif o'r brodorion, oedd yn Gatholigion, unrhyw ran mewn llywodraeth. Bu [[Gwrthryfel Gwyddelig 1798|gwrthryfel yn 1798]] gyda rhywfaint o gymorth o Ffrainc, ond cafodd ei orchfygu a lladdwyd miloedd lawer.
 
==O'r Ddeddf Uno hyd y Rhyfel Byd Cyntaf==
37,236

golygiad