Croeshoelio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Dull o ddienyddio a ddefnyddid yn weddol gyffredin mewn nifer o wledydd hyd y 4edd ganrif OC oedd '''Croeshoelio'''. Byddai'r person condemniedig yn cael ei hoe...
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Dull o [[Y Gosbgosb Eithafeithaf|ddienyddio]] a ddefnyddid yn weddol gyffredin mewn nifer o wledydd hyd y [[4edd ganrif]] OC oedd '''Croeshoelio'''. Byddai'r person condemniedig yn cael ei hoelio neu ei glynu ar groes, a'i adael i farw. Cofnodir croeshoelio yn yr [[Ymerodraeth Bersaidd]], ymysg y [[Carthago|Carthaginiaid]], [[Groeg yr Henfyd|y Groegiaid]], yr [[Ymerodraeth Seleucaidd]] a'r [[Ymerodraeth Rhufain|Rhufeiniaid]], o'r [[6ed ganrif CC]] ymlaen. Y person mwyaf adnabyddus i farw trwy groeshoelio oedd [[Iesu Grist]]. Yn y flwyddyn [[337]], gwaharddodd yr ymerawdwr [[Cystennin Fawr]] ddefnyddio croeshoelio yn yr Ymerodraeth Rufeinig.
 
Y bwriad wrth groeshelio oedd sicrhau marwolaeth gyhoeddus, araf a phoenus, a fyddai'n rhoi rhybudd i eraill. Gellid cael nifer o wahanol fathau ar groes; er enghraifft fe allai fod yn bolyn heb ddarn ar draws, ''crux simplex'' neu ''palus'' yn [[Lladin]]. Yn yr Ymerodraeth Rufeinig, ni ellid croeshoelio dinesydd Rhufeinig fel rheol.