Croeshoelio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 1:
[[Image:Pietro Perugino 040.jpg|bawd|230px|Y Croeshoeliad gan [[Pietro Perugino]].]]
 
Dull o [[Y gosb eithaf|ddienyddio]] a ddefnyddid yn weddol gyffredin mewn nifer o wledydd hyd y [[4edd ganrif]] OC oedd '''Croeshoelio'''. Byddai'r person condemniedig yn cael ei hoelio neu ei glynu ar groes, a'i adael i farw. Cofnodir croeshoelio yn yr [[Ymerodraeth Bersaidd]], ymysg y [[Carthago|Carthaginiaid]], [[Groeg yr Henfyd|y Groegiaid]], yr [[Ymerodraeth Seleucaidd]] a'r [[Ymerodraeth Rhufain|Rhufeiniaid]], o'r [[6ed ganrif CC]] ymlaen. Y person mwyaf adnabyddus i farw trwy groeshoelio oedd [[Iesu Grist]]. Yn ôl traddodiad, cafodd [[Sant Pedr]] ei groeshoelio a'i ben i lawr, tra croeshoeliwyd ei frawd, Sant [[Andreas]], ar groes o'r ffurf a elwir yn ''[[Crux decussata]]'' neu Groes Sant Andreas, ar ffurf X. Yn y flwyddyn [[337]], gwaharddodd yr ymerawdwr [[Cystennin Fawr]] ddefnyddio croeshoelio yn yr Ymerodraeth Rufeinig.
 
Y bwriad wrth groeshelio oedd sicrhau marwolaeth gyhoeddus, araf a phoenus, a fyddai'n rhoi rhybudd i eraill. Gellid cael nifer o wahanol fathau ar groes; er enghraifft fe allai fod yn bolyn heb ddarn ar draws, ''crux simplex'' neu ''palus'' yn [[Lladin]]. Yn yr Ymerodraeth Rufeinig, ni ellid croeshoelio dinesydd Rhufeinig fel rheol. Pan orchfygodd y Rhufeiniaid dan [[Marcus Licinius Crassus]] fyddin [[Spartacus]] yn [[71 CC]], croeshoeliodd Crassus chwe mil o garcharorion ar hyd y ''[[Via Appia]]''.