Cymry Llundain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 4:
Yn anad un ddinas arall yn [[Lloegr]] mae gan Lundain gysylltiadau hir â Chymru. Mae Cymry Llundain wedi cael eu disgrifio fel "yr hynaf a'r fwyaf o'r holl gymunedau o alltudion o Gymru". O'r Oesoedd Canol Diweddar ymlaen, ceir cofnodion am Gymry yn ymweld â Llundain - ac weithiau'n aros yno - fel milwyr hur, masnachwyr, ac ati. Cynyddodd y llif yn sylweddol ar ôl buddugoliaeth [[Harri Tudur]] ar [[Brwydr Bosworth|Faes Bosworth]] yn 1485. Aeth nifer o uchelwyr i'r ddinas i lys y brenin newydd, er enghraifft, a bu eraill yn byw yno yn gweithio fel gweinyddwyr a chyfreithwyr. Roedd [[porthmyn]] cynnar o Gymru yn adnabod y ddinas hefyd, er na fyddent fel rheol yn ymsefydlu yno.
 
Erbyn canol y 18fed ganrif roedd cymuned bur sylweddol o Gymry alltud yn byw yno, naill ai dros dro neu'n barhaol. Am fod Cymru yn amddifad o brifddinas a chanolfannau trefol mawr, daeth Llundain yn ganolbwynt i lenorion a hynafiaethwyr hefyd a sefydlwyd sawl cymdeithas ddiwylliannol wladgarol yno, gan gynnwys y [[Gwyneddigion]] a'r [[Cymmrodorion]]. Er eu bod yn gweithio o Lundain, un o brif amcanion y cymdeithasau hyn oedd hyrwyddo [[llenyddiaeth Gymraeg]] ac astudiaethau hynafiaethol ynyng Nghymru ei hun, yn ogystal â cheisio ennill parch at etifeddiaeth Cymru yng nghylchoedd deallusion Lloegr. Mae'r bobl a gysylltir a'r gweithgareddau hyn yn cynnwys [[Morrisiaid Môn]] (yn enwedig [[Lewis Morris]]), [[William Owen Pughe]], [[Owain Myfyr]], [[Goronwy Owen]] a [[Iolo Morganwg]]. I Iolo yn enwedig roedd gan hawlio Llundain yn ôl gan y Cymry, fel petai, yno arwyddocad symbolaidd, a chynhaliodd gyfarfod cyntaf [[Gorsedd Beirdd Ynys Prydain]] yno. Dyma pryd sefydlwyd [[Ysgol Gymraeg Llundain]] hefyd, a fu'n gartref i lawysgrifau Cymraeg pwysig am gyfnod, yn ogystal â lle i ddarparu addysg Gymraeg.
 
Bu trai ar y gweithgarwchgweithgareddau hyn yn y 19eg ganrif, wrth i argraffweisg niferus gael eu sefydlu yng Nghymru ac ysbryd [[Ymneilltuaeth]] afael yn y wlad. Ond erbyn canol y ganrif, am resymau economaidd yn bennaf, ymfudodd nifer o bobl o haneau is cymdeithas i Lundain er mwyn cael gwaith, yn enwedig o rannau gwledig o dde-orllewin Cymru fel [[Ceredigion]] a [[Sir Gaerfyrddin]] (tueddai pobl yn y Gogledd i geisio gwaith yn [[Lerpwl]]). Roedd y porthmyn wedi arfer cyrchu gwartheg i Lundain ers canrifoedd, ond heb aros yno fel rheol. Ond rwan aeth nifer o werthwyr llaeth gyda nhw ac ymsefydlu yno gan fod galw am eu cynnyrch yn y farchnad, a Llundain yn tyfu mor gyflym. Codwyd sawl [[capel]] Cymraeg yn Llundain yn y cyfnod yma hefyd.
 
Ond erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd nifer o Gymry deallus yn y ddinas yn dechrau poeni am gyflwr Cymru ac yn enwedig ei diffyg sefydliadau cenedlaethol. Cymerodd Cymdeithas y Cymmrodorion ran bwysig yn yr ymgyrch i sefydlu [[Prifysgol Cymru]], [[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]] a'r [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]] yn [[Aberystwyth]].