Cymry Llundain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →Hanes |
dolenni allanol |
||
Llinell 6:
Erbyn canol y 18fed ganrif roedd cymuned bur sylweddol o Gymry alltud yn byw yno, naill ai dros dro neu'n barhaol. Am fod Cymru yn amddifad o brifddinas a chanolfannau trefol mawr, daeth Llundain yn ganolbwynt i lenorion a hynafiaethwyr hefyd a sefydlwyd sawl cymdeithas ddiwylliannol wladgarol yno, gan gynnwys y [[Gwyneddigion]] a'r [[Cymmrodorion]]. Er eu bod yn gweithio o Lundain, un o brif amcanion y cymdeithasau hyn oedd hyrwyddo [[llenyddiaeth Gymraeg]] ac astudiaethau hynafiaethol yng Nghymru ei hun, yn ogystal â cheisio ennill parch at etifeddiaeth Cymru yng nghylchoedd deallusion Lloegr. Mae'r bobl a gysylltir a'r gweithgareddau hyn yn cynnwys [[Morrisiaid Môn]] (yn enwedig [[Lewis Morris]]), [[William Owen Pughe]], [[Owain Myfyr]], [[Goronwy Owen]] a [[Iolo Morganwg]]. I Iolo yn enwedig roedd hawlio Llundain yn ôl gan y Cymry, fel petai, o arwyddocad symbolaidd, a chynhaliodd gyfarfod cyntaf [[Gorsedd Beirdd Ynys Prydain]] yno. Dyma pryd sefydlwyd [[Ysgol Gymraeg Llundain]] hefyd, a fu'n gartref i lawysgrifau Cymraeg pwysig am gyfnod, yn ogystal â lle i ddarparu addysg Gymraeg.
Bu trai ar y gweithgareddau hyn yn y 19eg ganrif, wrth i argraffweisg niferus gael eu sefydlu yng Nghymru ac ysbryd [[Ymneilltuaeth]] afael yn y wlad. Ond erbyn canol y ganrif, am resymau economaidd yn bennaf, ymfudodd nifer o bobl o
Ond erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd nifer o Gymry deallus yn y ddinas yn dechrau poeni am gyflwr Cymru ac yn enwedig ei diffyg sefydliadau cenedlaethol. Cymerodd Cymdeithas y Cymmrodorion ran bwysig yn yr ymgyrch i sefydlu [[Prifysgol Cymru]], [[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]] a'r [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]] yn [[Aberystwyth]].
Llinell 20:
* [[Clwb rygbi'r undeb Cymry Llundain]]
* [[Ysgol Gymraeg Llundain]]
== Dolenni allanol ==
*[http://www.londonwelsh.org Canolfan Cymry Llundain]
*[http://www.london-welsh.co.uk Clwb Rygbi Cymry Llundain]
*[http://www.cymmrodorion1751.org.uk Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion]
[[Categori:Cymry Llundain| ]]
|