Plaid Unoliaethol Ulster: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Plaid [[Unoliaethwr|Unoliaethol]] yng [[Gogledd Iwerddon|Ngogledd Iwerddon]] yw '''Plaid Unoliaethol Ulster''' ([[Saesneg]]: ''Ulster Unionist Party'' neu ''UUP'').
 
Fel rhan o’r cytundeb rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r cenedlaetholwyr Gwyddelig yn [[1921]], cytunwyd i rannu Iwerddon. Daeth 26 sir o Iwerddon yn annibynnol yn [[1922]] fel [[Gweriniaeth Iwerddon|Gwladwriaeth Rydd Iwerddon]], tra parhaodd chwech sir yn y gogledd-ddwyrain (allan o’r naw sir sy’n ffurfio [[Wlster]]) yn rhan o’r Deyrnas Unedig gyda senedd ddatganoledig. Daeth Syr [[James Craig]] yn Brif Weinidog. O [[1929]] ymlaen, Plaid Unoliaethol Ulster oedd y brif blaid Unoliaethol, a bu mewn grym am hanner can mlynedd.
 
Dros y blynyddoedd bu trigolion [[Eglwys Gatholig|Catholig]] Gogledd Iwerddon dan anfanteision o ran cael swyddi, cael tai a materion eraill, gyda Protestaniad yn cael eu ffafrio. Yn y 1960au, ceisiodd y Prif Weinidog [[Terence O'Neill]] newid rhywfaint ar y system, ac wedi iddo ef ymddiswyddo, parhawyd hyn gan ei olynydd, [[James Chichester-Clark]], ond gwrthwynebid hyn gan lawer o Unoliaethwyr, megis [[Ian Paisley]].