Plaid Unoliaethol Ulster: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Dros y blynyddoedd bu trigolion [[Eglwys Gatholig|Catholig]] Gogledd Iwerddon dan anfanteision o ran cael swyddi, cael tai a materion eraill, gyda Protestaniad yn cael eu ffafrio. Yn y 1960au, ceisiodd y Prif Weinidog [[Terence O'Neill]] newid rhywfaint ar y system, ac wedi iddo ef ymddiswyddo, parhawyd hyn gan ei olynydd, [[James Chichester-Clark]], ond gwrthwynebid hyn gan lawer o Unoliaethwyr, megis [[Ian Paisley]].
 
[[David Trimble]] oedd arweinydd y blaid rhwng [[1995]] a [[2005]]. Roedd ei gefnogaeth i [[Cytundeb Belffast|Gytundeb Belffast]] yn annerbyniol i lawer yn y blaid, a bu ymraniad. Daeth Trimble yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn y llywodraeth a sefydlwyd ar y cyd a'r cenedlaetholwyr dan y cytundeb rhannu grym, ond yn [[Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005]], collodd yr UUP bump o'i chwe sedd yn San Steffan. Collodd Trimble ei hun ei sedd, ac ymddiswyddodd. Daeth Syr Reg Empey yn arwenydd y blaid yn ei le, ond collodd y blaid ei safle fel y brif blaid Unoliaethol i [[Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd|Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd]].