Ysgol Gyfun y Strade: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:31, 23 Chwefror 2006

Yn 1977 daeth addysg cyfun i dref Llanelli. Sefydlwyd ysgol uwchradd Gymraeg yn y dre sef Ysgol Gyfun y Strade. Mae'r ysgol yn derbyn disgyblion o'r ardal amgylchynol , o ysgolion megis Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Ysgol Gynradd Llangennech, Trimsaran, Felinfoel, Parc y Tywyn ,Ysgol Gymraeg Brynsierfel Llwynhendy , Yr Hendy. Ar y cychwyn roedd yr ysgol yn weddol fach ond erbyn heddiw mae wedi tyfu yn llwyddianus iawn .Mae gan yr ysgol Ddosbarth chwech dda iawn hefyd a'r Strade yw'r unig ysgol yn nhre Llanelli sydd wedi cadw ei dosbarth chwech gan fod y disgyblion o bob ysgol arall yn mynychu Coleg Sir Gar . Mr Desmond Jones oedd y prifathro cyntaf gyda Mr John Rees a Miss Megan Evans yn ddirprwyon. Yna fe ddaeth Mrs Nesta thomas yn ddirprwy. Mr Geraint Roberts yw'r pennaeth presennol a Mr Garry nicholas a Mrs Hefina thomas yn ddirprwyon .