Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Isabelle o Ffrainc"

Ychwanegwyd 32 beit ,  3 blynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
A hithau'n ferch 14 oed, bu rhaid iddi briodi [[Edward II, brenin Lloegr]], mab [[Edward I, brenin Lloegr]], yn 1308. Diflasodd yn llwyr ar ei ŵr ar croeso llugoer a gawsai yn llys Lloegr, a dychwelodd i Ffrainc yn 1325 ar ôl i'w frawd [[Siarl IV, brenin Ffrainc]] gipio llawer o diriogaethau'r Saeson yn Ffrainc.
 
Syrthiasai mewn cariad â'r barwn [[Roger Mortimer, Iarll 1af March|Roger de Mortimer]] (Iarll [[y Mers]] yn ddiweddarach) tra yn Lloegr, ac yn 1326 arweiniodd Isabelle fyddin i Loegr. Trechodd fyddin Edward II a gorfododd iddo ildio gorsedd Lloegr i'w mab, [[Edward III o Loegr|Edward]], a oedd yn fwy derbyniol i'r barwniaid. Rheolodd Isabelle a'i chariad Roger de Mortimer yn enw Edward, a oedd yn rhy ifanc i fod yn frenin. Yn 1327 llofruddiwyd Edward yng Nghastell Berkeley, ar orchymyn Roger ac Isabelle yn ôl pob tebyg.
 
Ond pan ddaeth Edward i'r orsedd fel Edward III, trôdd ar ei fam a Mortimer a chawsant eu harestio. Dienyddwyd Mortimer yn y ffordd erchyll arferol ar gyfer y rhai a ystyriwyd yn fradwyr a gorfodwyd Isabelle i ymneilltuo i gwfent yn [[Castle Rising]], ger [[King's Lynn]], lle bu aros am weddill ei dyddiau.
Defnyddiwr anhysbys