John Edward Madocks (AS Dinbych): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Roedd Madocks yn unig fab i John Edward Madocks, North Cray, Swydd Caint a Fron Yw, [[Llandegfan]] a Frances merch Syr Richard Perryn, Barwn y Trysorlys. Roedd yn gefnder i [[William Alexander Madocks]] AS Boston a Chippenham a sylfaenydd [[Porthmadog]].
 
Cafodd ei addysgu yn [[Ysgol Harrow]] ac [[Eglwys Crist, Rhydychen]]. Un o'i gyd ddisgyblion yn Harrow oedd y bardd Seisnig [[George Gordon Byron|Yr Arglwydd Byron]]. Mewn llythyr I Thomas Moore dyddiedig 20 Mai 1820 mae Byron yn adrodd hanes diwrnod wariodd yng nghwmni Madocks yn gwylio crogi John Bellingham am lofruddio'r [[Prif Weinidog]] [[Spencer Perceval]]<ref>[https://www.gutenberg.org/files/9921/9921-h/9921-h.htm Byron's Letters, rhif 237— ''to Thomas Moore May 20, 1812''] adalwyd 1 Rhagfyr 2017</ref>.
 
Ym 1817 priododd Sidney merch Abraham Robarts AS Caerwrangon, bu iddynt 5 merch a 2 fab.