Ysgol Harrow: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|Print o Ysgol Harrow tua 1615 Mae '''Ysgol Harrow''' yn ysgol breswyl annibynnol ar gyfer bechgyn yn Harrow (Bwrdeis...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 23:14, 1 Rhagfyr 2017

Mae Ysgol Harrow yn ysgol breswyl annibynnol ar gyfer bechgyn yn Harrow, Llundain, Lloegr. Sefydlwyd yr Ysgol ym 1572 gan John Lyon o dan Siarter Frenhinol gan Elizabeth I[1], ac mae'n un o'r saith ysgol gyhoeddus wreiddiol a gafodd eu rheoleiddio gan Ddeddf Ysgolion Cyhoeddus 1868. Mae Harrow yn codi hyd at £ 12,850 (2017/18)[2] y tymor, gyda thri thymor fesul blwyddyn academaidd (2017/18). Harrow yw'r bedwaredd ysgol breswyl ddrutaf yng Nghynhadledd y Prifathrawesau a Phrifathrawon.

Print o Ysgol Harrow tua 1615

Mae gan yr ysgol gofrestriad o 821 o fechgyn mewn deuddeg o dai preswyl, pob un ohonynt yn lletya llawn amser.

Mae gwisg Harrow yn cynnwys hetiau gwellt, siwtiau bore, hetiau top a chansennau.

Ymysg ei gyn-fyfyrwyr bu wyth o Brif Weinidogion Prydeinig neu Indiaid (gan gynnwys Peel, Palmerston, Baldwin, Churchill a Nehru), gwladweinwyr tramor, cyn-aelodau ac aelodau cyfredol o ddau dŷ Senedd y DU, pum brenin a nifer o aelodau eraill o deuluoedd brenhinol amrywiol, tri Enillydd Gwobrau Nobel, ugain Croes Victoria ac un o ddeiliaid George Cross, a nifer o ffigurau yn y celfyddydau a'r gwyddorau.

Cyfeiriadau

  Eginyn erthygl sydd uchod am addysg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato