William Henry Yelverton: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 19:
 
Bu'n [[Siryfion Sir Gaerfyrddin yn y 19eg ganrif|Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin ym 1853]]
 
==Achos ''Thelwell v. Yelverton''==
 
Ym mis Awst 1852 cyfarfu'r Uwchgapten William Charles Yelverton, Is-iarll Avonmore, a nai William Henry, merch o'r enw Maria Theresa Longworth tra ar daith stemar yn ôl o Ryfel y Creimea lle fu o'n filwr a hi'n nyrs. Syrthiodd Miss Longworth mewn cariad ag ef a bu yn ei ganlyn am sawl blwyddyn. Ar 15 Awst 1857 priododd y ddau yn gyfrinachol yn Rostrevor, Swydd Down, [[Iwerddon]]. Ond cyn pen blwyddyn priododd yr Is-iarll eto, heb ysgaru a'i wraig gyntaf. Roedd Avonmore yn honni nad oedd ei briodas i Miss Longworth yn ddilys.
 
O dan Statud Brenin Siôr II (19 Geo 2. c.13) yng nghyfraith Iwerddon, roedd unrhyw briodas rhwng Pabydd a Phrotestant neu briodas rhwng dau Brotestant a ddathlwyd gan offeiriad Catholig yn ddi-rym. Rhwng 21 Chwefror 1861 a 4 Mawrth 1861, cynhalwyd achos ''Thelwall v Yelverton'' i farnu os oedd y briodas yn ddilys neu beidio. Er bod yr Uwch-gapten yn Brotestant, a Miss Longworth yn Gatholig Rufeinig, ac er eu bod wedi eu priodi gan offeiriad Catholig Rhufeinig, penderfyniad y llys oedd bod y briodas yn ddilys gan bod Yelverton wedi honni wrth ei ddarpar wraig ei fod yn Babydd<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3443173|title=THE YELVERTON CASE - Monmouthshire Merlin|date=1862-07-12|accessdate=2017-12-02|publisher=Charles Hough}}</ref>. Ym mis Mawrth 1861 cafodd ei wahardd o bob dyletswydd filwrol. Ar 28 Gorffennaf 1864 ar apêl, gwrth-drowyd penderfyniad ''Thelwall v. Yelverton'', a phenderfynodd [[Tŷ'r Arglwyddi]] fod priodas gyntaf William Charles yn anghyfreithlon, ac felly roedd ei ail briodas yn ddilys<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3401072|title=THE YELVERTON CASE - Monmouthshire Merlin|date=1864-07-30|accessdate=2017-12-02|publisher=Charles Hough}}</ref>.
 
Bu William Henry a'i deulu yn ochri gyda Miss Longworth yn yr achos yn erbyn eu nai, gan achosi rhwyg teuluol. Yn wir, erbyn 1862, roedd William a Lucy eu hunain yn y llys, gan ddwyn achos o enllibio Miss Longworth yn erbyn brawd yng nghyfraith Avonmore, James Walker, a oedd wedi ysgrifennu llythyr iddynt yn eu beirniadu am barhau i gysylltu â Miss. Longworth wedi'r achos. Yn ôl Walker, roedd teulu Hendy Gwyn yn cefnogi Miss. Longworth oherwydd, pe bai ei phriodas i Avonmore wedi'i gadarnhau fel un dilys, yna byddai plant yr Is-iarll o'i (ail) briodas yn blant anghyfreithlon - ac felly byddai eu mab, Willie Yelverton, wedi cael dod yn etifedd i ystadau ac is-iarlliaeth Avonmore. Cyhuddodd Walker William Yelverton o ymddygiad ''mor hunanol, mor sylfaenol, mor annaturiol ei bod hi'n anodd credu ei bodolaeth''<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3442891|title=ANOTHER YELVERTON CASE - Monmouthshire Merlin|date=1862-01-25|accessdate=2017-12-02|publisher=Charles Hough}}</ref>. Collodd Walker yr achos a bu'n rhaid iddo dalu £500 o iawndal<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3443144|title=No title - Monmouthshire Merlin|date=1862-06-28|accessdate=2017-12-02|publisher=Charles Hough}}</ref>.
 
 
==Marwolaeth==
Bu farw yn Llundain yn 93 mlwydd oed <ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3205022|title=NODIADAUYRWYTHNOS - Seren Cymru|date=1884-05-02|accessdate=2015-12-05|publisher=William Morgan Evans}}</ref> a rhoddwyd ei weddillion i'w gorwedd yng nghladdgell y teulu yn Eglwys St Mair [[Hendy-gwyn|Hendy Gwyn]].