Brahmagupta: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Gweler hefyd: clean up
B Gwybodlen wicidata
Llinell 1:
{{infobox person/Wikidata
| fetchwikidata=ALL
| onlysourced=no
| suppressfields= cenedl dinasyddiaeth
| dateformat = dmy
}}
Seryddwr a mathemategydd [[India]]idd oedd '''Brahmagupta''' ([[598]]-[[670]]). Fe ystyriodd nifer o syniadau, sydd wedi eu derbyn fel rhan o [[mathemateg|fathemateg]] bellach. Ei brif gyflawniad ym maes mathemateg oedd cysyniad [[sero]] a [[rhifau negatif]]. Yn ei gampwaith ''Brahmasphutasiddhanta'' ([[628]]) (gellir cyfieithu'r teitl fel ''Dadorchuddio'r bydysawd''), mae'n diffinio sero fel y canlyniad a geir pan mae rhif yn cael ei dynnu o'i hun - dyna oedd y diffiniad gorau o sero oedd i'w gael yn y dyddiau hynny. Mae'r ''Brahmasphutasiddhanta'' hefyd yn cynnwys yr enghraifft gyntaf a wyddys amdani o nod sero. Darparodd Brahmagupta reolau hefyd ar gyfer trin "cyfoeth" a "dyled" - sy'n cyfateb i rifau positif a negatif (ystyrir mai dyma'r defnydd hysbys cyntaf o rifau negatif). Roedd ''Dadorchuddio'r Bydysawd'' hefyd yn cynnwys algorithm ar gyfer cyfrifo [[ail isradd]], dull ar gyfer datrys [[Hafaliad cwadratig|hafaliadau cwadratig,]] a ffurf seml ar [[nodiant algebraidd]]. Mae'r penodau eraill yn trin [[seryddiaeth]] - [[diffyg ar yr haul]] a [[diffyg ar y lleuad]], [[cysylltiad (seryddiaeth)|cysylltiadau'r]] planedau, [[gwedd leuad|gweddau'r lleuad]], a phenderfynu safle'r planedau.