Katherine Jenkins: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 42:
 
Ar ddechrau 2007, ymddangosodd Jenkins am ei thro cyntaf ar Rich List [[The Sunday Times]] o bobl ifanc. Fe'i hystyriwyd yn rif 62 o ran person ifanc cyfoethocaf Prydain gyda chyfoeth personol o tua £9 miliwn. Ers diwedd 2006, amcangyfrifir ei bod wedi gwerthu tua 2 filiwn o recordiau ers ei halbwm cyntaf yn 2004.
 
[[Delwedd:PP Rhyl UK Pavilion Theatre.jpg|thumb|right|Paul Potts yn perfformio ym Mhafiliwn Rhyl.]]
 
Gwnaeth ymddangosiad cameo hefyd mewn dwy raglen o [[Emmerdale]] ar yr 16eg a'r 17eg o Fai 2007 pan agorodd ffair y pentref. Ym mis Gorffennaf, perfformiodd Jenkins yn fyw ar Saving Planet Earth ar BBC1 er mwyn codi arian i Gronfa Byd Natur y [[BBC]]. Yn ddiweddarach yr un mis, cynhaliwyd cyngerdd arbennig ym Mharc Margam yn Ne Cymru a pherfformiodd Jenkins yno hefyd. Galwyd y gyngerdd yn Katherine In The Park a gwelwyd Jenkins yn perfformio ochr yn ochr â [[Paul Potts]] a Juan Diego Florez. Rhoddodd Jenkins wahoddiad personol i Potts i ganu "Nessun Dorma" yn y gyngerdd. Ar y 12fed o Awst 2007, ymddangosodd Jenkins ar raglen [[ITV]] Britain's Favourite View lle enwebodd Jenkins Bae Three Cliffs ar benrhyn [[Gŵyr]]. Aeth Jenkins a'r camerau am daith o amgylch y bae gan esbonio pam fod gan y bae y fath arwyddocâd sentimental iddi. Meddai "I grew up on the edge of the Gower, but it was still a holiday place for our family. We’d go on weekend breaks to Three Cliffs Bay – six miles down the road! That’s how gorgeous it is." Ym mis Medi, modelodd Jenkins ar bompren yn "Fashion Relief" Naomi Campbell er mwyn codi arian at achosion da. Gwisgodd Jenkins ffrog [[Julien MacDonald]] a brynwyd yn ddiweddarach gan Syr Phillip Green am £10,000. Ar yr 21ain o Hydref 2007, canodd Jenkins "Time to Say Goodbye" gyda [[Andrea Bocelli]] ar raglen ganlyniadau [[Strictly Come Dancing]].