Santes Cynheiddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
B ychwanegu catagoriau
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
B ychwanegu catagoriau
Llinell 2:
== Tair Chwaer ==
=== Cymysgu enwau ===
Santes oedd '''Cynheiddon''' ac un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog. <ref name=":0">Jones, T.T. 1977. The Daughters of Brychan, Brycheiniog Cyf.XVII</ref>Bu gan dair o'r merched , Ceinwen, Ceindrych a Cynheiddon ( neu Cenhedlon) enwau sy'n talfyrru i Cain neu Geinor aca (ambell waith) Ciwa. Cymysgir hwy hefyd gyda Canna ach Tewdwr ap Emyr Llydaw. Mae'r wybodaeth amdanynt wedi cymysgu cymaint nid oes modd eu gwahanu yn llwyr. Aeth Ceinwen a Canna i Fôn. Mae yn ymddangos bod Ceindrych (Cain) a Cynheiddon wedi bod yn gweithgar mewn dwy ardal; un yn ne dwyrain Cymru a'r llall yn de orllewin Cymru.<ref name=":0" />
 
=== Cynheiddon ===
BuRoedd Cynheiddon (neu Geinor, neu Canna) yn weithgar yn ne-orllewin Cymru; yn ardal Cydweli, ble mae pentref a elwir Capel Llangynheiddon. Cydweithiodd yn agos gyda Cymorth, oedd yn ferch neu yn nith iddi.<ref>Jones T T 1977 The daughters of Brychan, Brycheiniog Cyf.XVII</ref> Yn Llangain ger aber afon Tywi mae carreg a elwir 'Sedd Canna' gyda ffynnon gerllaw. Dywedir fod gwyrthiau wedi digwydd ymayno yn gwella pobl oedd yn dioddef o'r cryd neu waeledd y coluddyn. Bu rhaid i'r claf taflu pinnau bach i'r ffynnon, yfed y dŵr, neu ymdrochu ynddo ac eistedd yn y cadair am gyfnod gan gysgu os gellid. Parhaodd y triniaeth am ddyddiau, am bythefnos weithiau. Diflannodd y ffynnon yn y 19eg canrif ac mae'r ysgrifen ar y cadairgadair yn amheus ond dwedir fod y pant yn y carreggarreg wedi gwneud gan y nifer o gleifion oedd yn eistedd arno.<ref>Spencer R. 1991 The Saints of Wales and the West Country, Llanerch</ref>
 
Mae'n debyg fod Llangennech, ger aber yr afon Llwchwr, Llangain ar yr afon Tywi; a Llangeinor a Llangan ger Penybont i gyd wedi cysegru iddi. Cysylltir hi hefyd gyda Pontcanna a Treganna yng Nghaerdydd ond mae'r llefydd hyn hefyd wedi cysylltu gyda'i chwiorydd.