Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Rhygyfarch ap Sulien"

Ychwanegwyd 2 feit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
No edit summary
No edit summary
Roedd yn fab i [[Sulien]], a oedd hefyd yn ysgolhaig nodedig, yn [[Esgob Tyddewi]] ac yn gysylltiedig â [[clas|chlas]] [[Llanbadarn Fawr]]. Roedd yn frawd i [[Ieuan ap Sulien]].<ref name="D. Simon Evans 1959">D. Simon Evans, ''Buched Dewi'' (Caerdydd, 1959). Rhagymadrodd.</ref>
 
Ysgrifennodd Rhygyfarch y [[llawysgrif]] [[Lladin|Ladin]] ''"[[Sallwyr Rhygyfarch'']]", sy'n cynnwys cyfieithiad o'r [[Sallwyr]] [[Hebraeg]] a deunydd arall, yn cynnwys penillion gan Rhygyfarch ei hun. Lluniwyd y llawysgrif yn Llanbadarn Fawr tua'r flwyddyn [[1079]]; gwnaethpwyd y llythrennau lliw gan ei frawd [[Ieuan ap Sulien|Ieuan]]. Cedwir y llawysgrif yn llyfrgell [[Coleg y Drindod, Dulyn]].<ref name="D. Simon Evans 1959"/>
 
Cyfansoddodd gerdd arall yn galaru oherwydd anrheithiau'r Normaniaid yng [[Ceredigion|Ngheredigion]]. I Rhygyfarch y priodolir y ''[[Vita Davidis]]'' (''[[Buchedd Dewi]]''), a gyfansoddwyd tua'r flwyddyn [[1094]] i amddiffyn annibyniaeth yr esgobaeth oddi wrth [[Archesgob Caergaint]]. Dilynodd ei dad fel Esgob Tyddewi yn [[1088]].<ref name="D. Simon Evans 1959"/>