Cwyllog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up, replaced: 6ed ganrif → 6g using AWB
RwthTomos1948 (sgwrs | cyfraniadau)
B /* ychwanegu gwybodaeth
Llinell 3:
 
==Bywgraffiad==
Er fod yr wybodaeth amdani'n eitha niwlog, credir ei bod yn ferch i Sant [[Caw]] neu Coel o Rheged un o frenhinoedd yr [[Hen Ogledd]] a gollodd ei diroedd ac a ddihangodd i ogledd-ddwyrain Môn lle cafodd dir yn anrheg gan [[Maelgwn Gwynedd|Faelgwn Gwynedd]], ar yr amod eu bod yn canolbwyntio ar crefydd a pheidio ceisio gwladfa iddynt eu hunain; sef y tir a elwir yn [[Twrcelyn]].<ref name=Caw/>. Roedd gan Cwyllog dair chwaer: Cain, [[Peithien]] a [[Gwenafwy]] a sawl brawd gan gynnwys y seintiau [[Gildas]], [[Allgo]] ac [[Eugrad]]. Mae'r union nifer o frodyr a chwiorydd yn dibynnu ar ba femrwn a ddarllenir: rhwng 10 a 21.<ref name=Caw>Baring-Gould, pp. 92–94</ref><ref>Baring-Gould, p. 55.</ref>
 
Ei gŵr oedd [[Medrod]], nai i'r [[Brenin Arthur]] ac yn ôl yr hanesydd [[Angharad Llwyd]] yn ei llyfr ''Hanes Môn'', trodd at yr eglwys wedi marwolaeth Medrawd ym [[Brwydr Camlan|Mrwydr Camlan]] oddeutu 537.<ref name=Matron/>